Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tyngedfennol

tyngedfennol

Collid awyrgylch tyngedfennol y digwyddiadau pe na phwysleisid yr agwedd hon gan mor ganolog ydyw yn holl waith Saunders Lewis.

Sut bynnag, teg yw awgrymu mai cyfnod tyngedfennol yn ei hanes ydoedd.

Ar y bore Iau tyngedfennol, tua hanner awr wedi un-ar-ddeg y bore, roedd wedi clywed sŵn ergydion trwm yn dod o dy Ali - fel sŵn ergydion bwyell.

Gwnaed iawn am hyn yng nghynhyrchiad Merfyn Owen ar y teledu drwy bwysleisio'r grisiau ar amserau tyngedfennol yn y sgript ac asio hynny a phwyslais neu gynnydd mewn cerddoriaeth a ddynwaredai guriad calon (cerddoriaeth William Mathias).

Yr ydym yn gadael rhigolau plaid am ein bod o'r farn mai mater tyngedfennol o bwys mawr yw sicrhau hunan lywodraeth ar fyrder" Dyna osod y pwnc yn ei le, ynghanol cymeradwyaeth frwdfrydig.

Ymdriniaeth ddadlennol â chyfnod tyngedfennol yn hanes Cymru: oes y Tuduriaid.

"Mae hi'n amser tyngedfennol, Gwgon." Cyfarchent ei gilydd gyda'r enw cyntaf bellach.

Os ceir y dyfarniad terfynol yn Lwcsembwrg þ ac rwy'n hyderus yr aiff Cyngor Gwynedd â'r mater i'r eithaf Ewropeaidd, os bydd raid þ bydd y dyfarniad hwnnw'n un tyngedfennol i'n dyfodol ni fel Cymry.

Perthyn y llyfr i fath o lenyddiaeth a ffynnai ymhlith Iddewon a Christnogion yn y dyddiau tyngedfennol hynny.

Un grwp sydd heb ddyddio o gwbl, ar y llaw arall, ydi Diffiniad, ac yn yr un modd 'roedd clywed Hapus yn foment tyngedfennol.