Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tynnais

tynnais

Ar ei gais, tynnais fy nghrys, plygu'n ddwbl dros ymyl y soffa, ac aros felly yn fy nghwman i ddisgwyl y nodwydd.

Yn anffodus roedd wedi cloi ond gan fy mod yn mynd i lawr allt tynnais yr allwedd o'r 'ignition' i'w agor.

Yn araf, araf ac yntau'n rhoi ambell sblash o wrthwynebiad â'i gynffon ac yn dangos dyfnder ochr arian a sgleiniai yn y tywyllwch, tynnais ef dros y rhwyd - a'i chodi .

Tynnais sylw un o'r aelodau wrth fynd allan o'r oedfa fod tipyn gwell presenoldeb yng nghyffiniau Llanrug, mewn oedfa bore neu brynhawn.

Tynnais ddillad y gwely oddi arno, ac edrychais ar ei gorff curiedig.

Clywais un ymgeisydd aflwyddiannus yn dweud, 'tynnais (codais) hanner fy ngardd i wneud y casgliad hwn, a chael y run o'r gwobreuon yn y diwedd'.