Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tyrd

tyrd

Tyrd tithau'r ffordd hyn, Glyn.' Aeth i fyny grisiau arall a'i arwain i ystafell fechan lân a thestlus yng nghefn y tŷ.

`Gyda phleser,' ebe Harri, `ond i chwi fod yn gyfrifol i mi am ganpunt os digwyddiff rhwbeth iddo.' `Dim peryg,' ebe'r Yswain, ac ychwanegodd, `ond tyrd dy hun efo ni, mi fydd yn dda gen i dy weld yn y cwmni.' Diolchodd Harri iddo, a theimlai yn hynod o hapus fod ei feistr tir wedi ei wahodd i ymuno â'r boneddigion oedd yn myned ar ôl y cŵn ddydd Llun, ac ni wnaeth efe ddim arall bron hyd y dydd penodedig ond ei daclu ei hun a'i geffyl ar gyfer yr amgylchiad.

Estyn gadair, tyrd at y bwrdd a chyrraedd at y bwyd a'r ddiod.

Gwaeddodd ar y dyn oedd yn canlyn ceffyl: "Tyrd â'r ceffyl i symud rhain!" Aeth hwnnw i'r stabl oedd yn weddol agos, ac yna dod yn ei ôl heb y ceffyl.

"Be' wyt ti'n feddwl ydi o?" "'Sgen i ddim syniad, ond mae o'n codi arswyd arna' i." "Taw." "Ydi, wir yr." "Tyrd o 'na."

"Roeddwn i'n meddwl bod pawb wedi clywed y chwedl honno." "Tyrd â hi," meddai'r asyn.

"Tyrd efo ni, Jabi boi, i sodro'r uffar bach." Roedd gan Jabas gywilydd mawr o'i dad meddw.

Tyrd yn d'ôl 'fory.' 'Ond heddiw, syr, y deudodd Emrys .

'Diawch, tyrd allan o'r car 'ma,' meddwn i a heb i mi sylweddoli, roedd y car wedi gadael y ddaear ac yn gyrru'n hamddenol drwy'r awyr.

Tyrd wir, i ni gael tro reit handi.'

Brathodd Abdwl ei ben i mewn drwy'r drws ac meddai'n swta, Tyrd allan.' Cododd Glyn ac aeth am y drws.

Tyrd Smwtyn!

`Tyrd Leah, gafael yn fy llaw i!' Rhedodd y fam a'r ferch drwy'r mwg i'r gegin.

...coedwigwr praff yn dethol pren Tyrd ataf; cân â'th fwyell rybudd dwys A tharo unwaith, ddwywaith, nes bod cen Yn tasgu, a'r ceinciau'n crynu, a chrymu'u pwys; Dadwreiddia fi o'r ddaear, cyn y daw Ffwrneiswaith y golosgwyr acw draw.

HEULWEN: Wel, tyrd yn syth i lawr.

"Tyrd, Sam," meddwn i, "mi hoffwn fod yn ol yn y swyddfa cyn i Matthew Owen gyrraedd yno." "Ai ai, syr.

Tyrd i 'molchi a bwyta dy frecwast,' meddai Pierre, 'mi gei fynd allan wedyn i weld y fferm.' Dilynodd yntau Pierre i lawr y grisiau i'r ystafell ymolchi.

'Hei, Rhys tyrd yn d'ôl...' clywodd Dad yn galw ond cymerodd arno beidio â chlywed.

Tyrd, Mair.'

ac wrth gethin gethin tyrd di hefo mi i ddangos imi lle 'r oeddech chi 'n chware, a mi awn ni heibio griff tomos iddo ddod hefo ni.

Tyrd,' meddai Abdwl unwaith eto, ac aeth Glyn ar eu holau gan ddringo i gefn Land Rover a oedd yn disgwyl wrth lidiart y cae glanio.

Tyrd yma am funud." LLanc ifanc, tlodaidd ei wisg, oedd Aled Owen, yn edrych yn dal am ei fod mor denau.

"Tyrd, Sam!" Dilynodd y ddau Aled drwy ddrws y cyntedd, ac mi gefais innau fy hun yn mynd gyda nhw.

Tyrd." Roedd Rees a Snowt yn sefyll o flaen darlun dyfrlliw o hen furddun.

Tyrd i mewn,' meddai yntau a neidio ar ei draed a dod i ysgwyd llaw â'r Hindw.

"Tyrd i fan'cw i edrych fedrwn ni weld y lleill.

Tyrd Nia." Cerddodd Alun allan o'r ystafell heb ddweud yr un gair arall.

y Byd, tyrd ar f'ôl os gelli fy nal", ac yn edrych ar y sêr o'r llong gwmwl.

tyrd ffred.

"Mae'n iawn i fechgyn gario pethau - - does arna i ddim eisiau gwneud fy nillad yn flêr!" "O, Iona, rydan ni'n dwy'n helpu hefyd, tyrd yn dy flaen," meddai Eira'n flin.

"Ond tyrd i mewn i'r ffau at Huw Huws.

Petae ti'n gofyn pa un llinell sy'n mynd trwy fy meddwl i ar adegau anodd, yna Steve fyddai ar y blaen efo'r geiriau 'tyrd allan i ddawnsio'n y glaw a chodi dau fys ar y byd'. Mae Steve yn dynn wrth sodlau Waldo pan ddaw hi at ysbrydoliaeth.

Rhyddhaodd Alun ei hun o freichiau Nia ac meddai wrthi: "Tyrd, mi awn ni i ofyn i dy dad gei di fenthyg y car i fynd â mi i Berth y Felin." "I beth?" "I ddweud wrth Jenkins y twrne nad ydw i am werthu'r fferm." "Dwyt ti ddim ffit i fynd allan a tithau newydd godi o dy wely," meddai ei fam .

Tyrd, rho hi am dy arddwrn, mi gei honna am fod yn hogyn da.'