Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tystia

tystia

Tystia edwiniad truenus bywyd cenhedloedd bach fel Cymru a Llydaw i hyn.

Tystia llawer o blant heddiw eu bod wedi diflasu gyda'r Ysgol, eu cartref, a bywyd yn gyffredinol ('bored' neu 'boring' yw'r geiriau mawr).

Yn ôl Jan Morris, does neb sy'n fwy hyblyg wydn na'r Tseineaid, fel y tystia methiant yr ymerodraeth Brydeinig - hyd yn oed ar ei haruthredd mwyaf - i wneud fawr o argraff ar eu 'down-to-earth genius'.

Tystia ef ei hun iddo fod yng nghyffiniau Llandâf tra bu William Morgan yn Esgob Llandâf.

Poeni'r oedd hefyd, fel y cyfeddyf yn ei hunangofiant ac fel y tystia dyneiddiaeth amrwd y fersiwn cyntaf o 'Iesu Grist', am wirionedd y ffydd Gristnogol.

Yr oedd yn grefftwr campus fel y tystia'r degau o gabanau, gelltydd a chobiau a welir yma ac acw hyd wyneb y chwarel heddiw.

Gyda'r fath chwyddiant a chwalfa masnachol, nod offer plymars a beiro a ffilm sy'n amhosibl o brin ond teiars i lori%au ac awyrennau, fel y tystia moelni brawychus olwynion mewnol y deuawdau rwber sy'n hwylio'r tarmac.

Tystia i eiriau caredig Saunders Lewis a beirniadaeth galonogol WJ Gruffydd yn Eisteddfod Manceinion fod yn sbardun iddi.

'Llunnir rhannau sylfaenol o'n bywyd gan ddylanwad y cwmwl tystion, a aeth o'n blaen arnom,' medd Peate yn Rhwng Dau Fyd; tystia'r hunangofiant trwyddo, serch hynny, i ddylanwad mwy cyrhaeddbell ac arhosol dynion byw y daeth i'w hadnabod yn bersonol.