Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tywallt

tywallt

Ymhell cyn canol y bore yr oedd hi'n tywallt hen wragedd a ffyn, a minnau'n mynd yn fwy digalon bob munud.

Mae'r sudd yn tywallt allan o'r goeden wrth i'r nodd godi i'r dail yn y gwanwyn.

Nos Sadwrn dwaetha' roedd hi'n tynnu at un ar ddeg ac yn tywallt y glaw; dyma gnocio mawr ar y drws.' 'Agoroch chi o, Francis?' 'Dim diawl o beryg.'

Wrth gwrs dydir arian syn cael eu tywallt i'r plât casglu ai ben i waered yna yn ddim o gymharu âr hyn yr ydym yn ei dalu mewn bywydau am breifateiddior rheilffyrdd.

Ar yr un pryd rhaid tywallt arian i'r ymchwil wyddonol am ffyrdd effeithiol i leihau poen.

Yr haul yw ffynhonnell holl ynni y pethau hyn, yn blanhigion ac yn anifeiliaid ac yn yr haf mae yna tua dwywaith fwy o ynni yn tywallt dros Gymru nag yn y gaeaf.

O, na, roedd milord yn trotian yn ôl a blaen i ymyl y dŵr efo'i fwced, yn tywallt ei llond i'r ffos ac yn methu'n lân â deall pam nad oedd y ffos yn llenwi.

Ond roedd hi'n anodd iawn tywallt dŵr oer ar obeithion eirias y to ifanc.

Ddwy flynedd yn ôl fe ddechreuwyd tywallt arian loteri i mewn i chwaraeon.