Os arhoswn allan yn ddigon hir i'r llygaid allu addasu i'r tywyllwch, eu os yw'n noson ddi-leuad, fe welwn fod llawer mwy i'w weld yn yr awyr na'r cytserau a'r ser amlwg.
Yna lapiodd y tywyllwch hwynt, a diflanasant mewn sibrydion.
Dyma lle y rhwygwyd teimladau gan angau, a thoriad gwawr well wedi tywyllwch nos.
Yna gwenodd i'r tywyllwch wrth glywed chwerthiniad cras o gyfeiriad y ddau filwr.
Roedd hi'n dechrau tywyllu nawr a doedd e ddim yn hoffi bod tu allan yn y tywyllwch ar ei ben ei hun.
Tyf llawer ohonynt ar goed yn y trofannau, nid yn isel ar y goeden mewn tywyllwch llaith fel y dychmygwn, ond yn agos i'r brig mewn goleuni da ag awyr iach.
Ni raid i mi ofyn pryd ddiwethaf y gwelsoch chi blant deuddeg oed yn codi cyn y wawr i wisgo amdanynt yn y tywyllwch er mwyn mynd i weithio poncen chwarel, achos drwy drugaredd ni welsoch hynny erioed.
Yn ôl ei eiriau ef yr oedd fel pe bai'n symud o'r tywyllwch i'r goleuni.
Rhowch blanhigyn ty bychan yn y tywyllwch am bythefnos cofiwch ei ddyfrhau fel na fydd yn marw.
Yn y tywyllwch o'u blaenau gallai daeru ei fod yn clywed rhywbeth yn anadlu.
Dyna'r ffordd orau i ddal cathod gan eu bod nhw mor hoff o browla yn y tywyllwch." Gwyddai pob un ohonynt fod Wyn wedi deffro o'r diwedd, a'i fod cystal â neb am ddefnyddio'i ddychymyg ar ôl iddo agor ei lygaid yn iawn.
Mae rhai ohona ni yn dal yn ddigon hen i gofio'r dyddiau du hynny pan oedd y goleuadau yn diffodd fesul un ag un drwy Brydain ben-baladr - a'n pobl ifanc, goreuon eu cenhedlaeth yn aml, yn gwneud dim byd mwy difrifol yn y tywyllwch dudew hwnnw na blasu siocled.
Mae cred fod cathod yn medru gweld yn y tywyllwch.
Cerddi Saesneg a ddarllenwyd yn yr orsedd gyntaf, rhag gadael y Saeson, meddid, yn y tywyllwch o'r hyn a oedd yn mynd ymlaen, ac urddwyd o leiaf ddau yn Feirdd.
"Adref blant, brysiwch," cyfarthodd Henri o'r tywyllwch eto.
Anodd dirnad sut y medrodd gadw ei synhwyrau wrth gael ei gaethiwo ar ei ben ei hun, mewn tywyllwch, wedi'i gadwyno, am yr holl flynyddoedd.
"Halt!" gwaeddodd llais sarrug o'r tywyllwch.
Yn araf, araf ac yntau'n rhoi ambell sblash o wrthwynebiad â'i gynffon ac yn dangos dyfnder ochr arian a sgleiniai yn y tywyllwch, tynnais ef dros y rhwyd - a'i chodi .
Byddai ambell un yn goleuo'r tywyllwch yn nhrymder gaeaf.
Nid oedd yn chwennych y daith drwy'r gwyll i'r fferm chwaith, ond tasg i'w chyflawni yn y nos ydoedd, y nos oedd yr amser i herio galluoedd y tywyllwch.
'Ydach chi'n iawn?' gofynnodd, gan graffu i'r tywyllwch.
Ef a'i gyd-weinidogion oedd 'cyfarwyddwyr y bobl, chwedl yntau, a'u dyletswydd, fel cynrychiolwyr y grefydd honno a oedd, yn eu golwg hwy, wedi achub y Cymry rhag tywyllwch yr oes o'r blaen, oedd goleuo'u cydwladwyr.
Er bod llen y tywyllwch wedi dod dros ei llygaid ers rhai blynyddoedd bellach, mae ei chof yn dal yn fyw ac mi all ddweud llawer o hanes y Wladfa a'i phobl.
Ac i baradwys wen brenhines y weirglodd y camasom o'r tywyllwch.
Rhythai ei llygaid agored drwy'r tywyllwch, a lluniau o'i thri phlentyn fel lledrithiau niwlog yn dawnsio'n araf o'i blaen.
`Cupar, Leuchars, St Fort, Dundee.' Rhestrodd enwau'r gorsafoedd wrth i'w drên ruthro trwy'r tywyllwch unwaith eto.
Yng nghanol y tywyllwch daliai porter ei lamp i fyny a hithau'n taflu ei phelydrau allan yn gylch i niwl y bore.
Roedd ar fin setlo i gysgu yn fodlon braf pan glywodd leisiau dau lais dieithr yn siarad yn y tywyllwch.
Yr oedd cael bod mewn hanner-tywyllwch a byw ar fara-a-dþr am dridiau fel cosb am geisio edrych ar ferch yn ddigrif i Fyrddin Tomos.
Ond roedd ar Huw fwy o ofn tywyllwch, a bwgan, na sbeit Kelly Mair a'i ffrindiau i gyd.
Aeth y tywyllwch a distawrwydd yn bethau prin hefyd yn ystod y chwedegau.
Yng nghanol dinas fel Caerdydd mae goleua - dau strydoedd a cheir hefyd yn effeithio ar y tywyllwch.
Yna, tywyllwch dudew, unffurf y nos yn llonyddu'r llygaid yn llwyr, a'r holl fryd yn cael ei ganoli ar seiniau 'soniarus' (gair sydd ynddo'i hun yn soniarus) y gwyddau gwylltion ymhell uwchben yn rhywle.
Roedd yr arwyddion yn fach ac aneglur yn y tywyllwch.
Toc, mentrodd agor cil ei llygaid i edrych yn llechwraidd o'i hamgylch, gan ddisgwyl gweld rhywun yn camu o'r tywyllwch.
Roedd y gred yn bodoli adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, hwyrach am fod yr amser roedd yn ei gymryd i gynnau'r drydydd sigare/ t yn rhoi digon o gyfle i'r gelyn fedru saethu at y golau gwan yn y tywyllwch.
Roeddwn i'n eistedd yn y tywyllwch ar haenau o sachau bwyd ym mol awyren a ddefnyddiwyd flynyddoedd ynghynt, yn ôl y peilot Americanaidd, i gario arfau i'r Somaliaid.
Mae'n rhaid bod mewn man tywyll iawn ymhell o unrhyw oleuadau, ac mae'n rhaid gadael i'r llygaid addasu i'r tywyllwch.
Ac oherwydd y tywyllwch a ddeddfwyd fel rhwystr i awyrennau bomio'r gelyn, ni fu'n bosibl i rai o hoelion wyth yr enwad ddod yno i roi eu sêl a'u bendith ar weithgareddau'r dathliad.
"Wel," meddai Wiliam, "da boch chi i gyd"; a heb edrych ar neb, dilynodd ei dad i'r tywyllwch.
Sicrhawyd Esgob Tyddewi y gallai'r dyddiau penodedig o weddi%o fod yn fendithiol, ac er mwyn i'r Eglwys gyflawni ei dyletswydd ym mlynyddoedd y Rhyfel yr oedd yn ofynnol iddi fod yn gwbl argyhoeddedig fod y frwydr yn un yn erbyn galluoedd y tywyllwch.
Yr Ymerodraeth Brydeinig yn ymestyn dros bumed rhan o diroedd y byd: 'Yr ymerodraeth nad yw'r haul yn machlud arni byth' (yn ôl cellwair y cyfnod: 'am na allai Duw ymddiried mewn Sais yn y tywyllwch'). Y Senedd yn cytuno i dalu pensiwn i'r henoed.
Beth oedd yn llechu yn y tywyllwch tu ôl i'r blanced?
Pan oeddem yn eistedd mewn tywyllwch, gorchmynnaist i oleuni lewyrchu arnom.
Ymateb cyntaf i eiriau fel llyfrau, ffynhonnau, dysgawdwyr a goleuadau yw un o werthfawrogiad; mae llyfrau yn cyfoethogi dyn, ffynhonnau'n ei adnewyddu, dysgawdwyr yn ehangu'i wybodaeth, goleuadau yn ei arwain yn y tywyllwch.
"Wnawn ni ddim diffodd y golau," meddai wrth y cŵn, "rhag ofn i ni faglu'n y tywyllwch ar y grisiau tu allan." Cofiodd am ei dors, ac agorodd y drws i'r cŵn neidio o'i flaen i lawr grisiau'r feranda.
Oherwydd y tywyllwch, bu'n amhosibl gweld mynyddoedd canolbarth yr Eidal.
Sefyll ynghanol un o'r tai a gadael i'r llygaid arfer â'r tywyllwch.
Yr Ymerodraeth Brydeinig yn ymestyn dros bumed rhan o diroedd y byd: 'Yr ymerodraeth nad yw'r haul yn machlud arni byth' (yn ôl cellwair y cyfnod: 'am na allai Duw ymddiried mewn Sais yn y tywyllwch').