Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tywys

tywys

Yn union fel yr arweinia athrawiaeth Person Crist at athrawiaeth ei waith, mae athrawiaeth yr iawn yn ein tywys yn uniongyrchol at athrawiaeth yr Ysbryd Glân.

Roedd cael tywys Cl_o y bore hwnnw wedi cryfhau ei awydd am gael ci.

Kate a finnau yn gollwng ein bagiau i gyd un wrth un o'r trên a disgwyl ar y platfform am rywun o Goleg Athrawon Yiyang i'n tywys yno.

Onid ydym yn ymwybodol iawn o gwmni Saunders Lewis ei hun wrth iddo'n tywys trwy hanes ein llenyddiaeth?

Ar ôl y brecwast Tsineaidd cyntaf, cawsom ein tywys o gwmpas y ddinas.

Mae'r teirw yn ceisio gwthio'i gilydd wysg eu pennau o amgylch y cylch ond dim ond am rhyw ddau funud neu dri mae'r gystadleuaeth yn para - nes y bydd un tarw ar ei liniau neu pan yw'r gwr efo'r corn siarad yn rhoi diwedd ar bethau a dau darw arall yn cael eu tywys i'r cylch a'r holl beth yn dechrau eto.

Yna mae dau darw yn cael eu tywys i'r cylch a'r gystadleuaeth yn dechrau.

Cynllun y cyfansoddi sy'n rheoli: llinell letraws cwmwl yn cyd-bwyso â llinell letraws y graig ac yn tywys y llygaid ar lwybr igam-ogam trwy ofod y darlun at y bobol yn y blaendir.

Daeth Menna ymlaen atom a'n tywys at fwrdd crwn, dipyn o'r neilltu.

"Dyma fi, fan hyn." Trodd y ddau ar unwaith, yn union fel pe bawn yn eu tywys yn bypedau wrth linyn.

Ein cyrchfan oedd Dolgellau, lle'r oedd Mrs Ann Rhydderch yn aros i'n tywys drwy amgueddfa'r Crynwyr yn Nhŷ Meirion.

Gwnaeth y bwtler ei orau i'm tywys drwodd heb i mi gael peltan yn fy wyneb gan y dail soeglyd, ac ymhen amser daethom i fan agored yng nghanol y jyngl o dan y to crwn uchel.

Mae'r hen wragedd sy'n gofalu am yr eglwysi yn barod iawn bob amser i'ch tywys o gwmpas, ac ymhyfrydant yn ysblander yr amgueddfeydd crefyddol y maent yn eu gwarchod.

Erbyn canol y prynhawn roedd cannoedd wedi ymgasglu i weld y limosîns yn tywys y gwesteion yno ar gyfer y briodas.

Ac mae'n rhywbeth sy'n rhoi arogl unigryw i'r siop achos beth bynnag ddyweda nhw am faco mae ei arogl o YN hyfryd ac y mae yma gymanfa o aroglau yn ein tywys yn ôl i rhyw gyfnod pell yn ôl.

Ar ôl codi llaw ar bawb maen nhw'n diflannu ac fe'u gwelwn ar sgrîn mawr yn cael eu tywys o gwmpas yr adeilad.