Yr oedd y pedwar esgob Cymreig - a'u seddau yn Nhyddewi, Llandaf, Bangor a Llanelwy - bellach yn cydnabod uchafiaeth Archesgob Caergaint; ac yn ben ar y cwbl, wrth gwrs, yr oedd y Pab yn Rhufain (neu'n hytrach yn Avignon yn Ne Ffrainc am ran helaethaf y bedwaredd ganrif ar ddeg).
O fewn y mis yr oedd wedi cyhoeddi tair erthygl yn gorchymyn pob clerigwr i gydnabod uchafiaeth y Frenhines, i ddatgan nad oedd dim yn y Llyfr Gweddi'n groes i Air Duw ac i gymeradwyo'r cwbl o'r Deugan Erthygl namyn Un.