Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ucheldir

ucheldir

Glei stagnohwmic, gyda cyfran uchel o ddefnydd organic, sy'n ffurfio yn yr ucheldir ac yn yr iseldir priddoedd stagnoglei sy'n datblygu.

Yr unig broblem oedd malaria, sy'n tueddu i fod yn rhemp ar dir isel, ac sy'n fygythiad difrifol i bobl fu'n byw cyhyd yn yr ucheldir.

Eto o ran arwynebedd mae ffermydd defaid yr ucheldir yn defnyddio tros draean o dir Cymru.

Trwy ryw ryfedd wyrth, ni anafawyd ef ond dyna diwedd ar arbrawf arall i ysgafnhau baich ffermwyr ucheldir Ceredigion!

Yn yr Engadin, megis ym mhob un o'r cymoedd ar gymoedd mynyddig sy'n creu'r Grisiwm, mae'n hawdd ymateb i eiriau Zarathustra, 'immer weinigere steigen mit mir euf immer hohere Berge, - ich bause ein Gebirge aus immer heiligeren Bergen.' (Llai a llai sy'n dringo gyda mi i fyny mynyddoedd uwch ac uwch, - adeiladaf ucheldir o fynyddoedd sancteiddiach a sancteiddiach).

Nid oes patrwm syml i ddosbarthiad yr ucheldir ac mae nodweddion yr ardaloedd mynyddig yn amrywio'n helaeth.

Wrth deithio'n ôl, sylwais ar fwg hyd y llechweddau o amgylch, lle'r oedd ffermwyr yr ucheldir yn llosgi hen dyfiant o wellt a rhedyn crin a bonion grug ac eithin.

Iddo ef, doedd unman tebyg y tu allan i ucheldir gorllewinol Mecsico.

Roedd yn angenrheidiol, meddai, i'r milwyr gael lle i ymarfer tanio'u magnelau mawrion cyn mynd i ryfel, ac roedd blaenau cymoedd ac ucheldir Epynt yn ddelfrydol ar gyfer ymarferiadau o'r fath.

Ai am eu gorchestion peirianyddol y derbyniwn heddiw nad ydyw trenau'n tarfu fawr mwy ar naws yr ucheldir nag adfeilion hen gestyll?

O'r un ucheldir y deuai Jac Glan y Gors, Taliesin a Llew Hiraethog, Tom Owen Hafod Elwy a llawer un aral y gellid ei enwi heb fynd nemor pellach na deuddeng milltir o gartref William Jones yn Hafod Esgob, Nebo.

Er mai yn yr ucheldir yr oedd y rhan fwyaf o'r bobl yn byw, yno hefyd yr oedd y newyn gwaethaf.