Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

uchelwr

uchelwr

Amlygir hynny yn y cyfeiriad a wna Siôn Mawddwy at yr uchelwr a'i wraig yn cyd-dynnu am eu bod yn hanu o'r iawn ryw ('Chwi a'ch bun, iawn yw'ch bonedd').

Prin ei bod hi'n dlawd, gan iddi briodi'n ŵr cyntaf uchelwr pur gefnog o Lanfair Talhaearn o'r enw William Davies (neu Wiliam Dafydd Llwyd) ac i hwnnw ei gadael mewn amgylchiadau digon cysurus tra byddai.

Y broses allblygol; rhannu doniau â chefn gwlad; adlewyrchu'r goludoedd a fuasai'n hanfod ei gyff ei hun ac a ddangosai y 'mawredd a chymeriad' a feithrinai ' o gadw tŷ gwedi y tad': y nodweddion allblygol hynny a roddai ystyr i fywyd yr uchelwr; hebddynt ni allai ei gyfiawnhau ei hun yng ngolwg ei geraint, ei gymdogaeth, na'r wladwriaeth a roesai iddo wisg gydnabyddedig ei statws gweinyddol.

Yn y cyd-destun hwnnw amlygid amodau ymddygiad greddf, dirnadaeth ynghyd â'r gallu angenrheidiol i ymateb yn briodol i sefyllfaoedd arbennig ac i'r addysg honno a gyfrennid i'r uchelwr ac a ddyfnhâi ynddo'r priodoleddau hanfodol ym mywyd y gŵr perffaith.

Nid oeddwn yn deall hyn o gwbl; a dweud y gwir, dyma'r tro cyntaf imi weld yr enw 'Glendower' er i William Shakespeare fedyddio'r uchelwr gwrol o Lyndyfrdwy felly.

Yn fynych ni allai'r beridd ddarlunio'r uchelwr yn llawnder ei gymeriad heb ystyried gwraig y plasty yn rhan hanfodol o'i wneuthuriad.

Ysywaeth, flwyddyn neu ddwy ar ôl i Forgan ddod i'r fywoliaeth fe aeth yn ffrae enbyd rhyngddo ac Evan Meredith o Lantanad, twrnai ifanc yn llys Cyngor Cymru a'r Gororau yn Llwydlo ac uchelwr penna'r plwyf.

Yn ddieithriad, mae'r canu mawl yn parchu'r confensiwn o gyfeirio at ardderchogrwydd llys a'i gydnabod yn fan cynnal 'cyd- wyliau', ac yn eisteddfa uchelwr 'a urddai wlad â'i hardd lys'.