Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ufudd

ufudd

Ufudd-dod i draddodiad yw pwnc y llyfr: pwysigrwydd amddiffyn purdeb ffydd y tadau rhag cael ei wenwyno gan heresi uchel-Galfiniaeth.

Fe ofalai'r cyffur ufudd-dod am hynny.

Cyfrifid bod yr Eglwys, y wladwriaeth a'r uned deuluol yn undod patriarchaidd a sylfaenesid ar ufudd-dod ac awdurdod.

Cefais enghraifft gan Gymro o Abertawe pa mor ufudd y mae rhaid i filwr fod.

Dyn efo ci wedi ei stwffio a enillodd y wobr gyntaf mewn cystadleuaeth ufudd-dod cwn yn Siapan yn ddiweddar.

Dywedid ei fod yn cynllwynio'r olyniaeth yn ei fab Dafydd, ond pan fo symudiadau'r amseroedd ac uchelgais dynion fel olwynion yn troi, ni all neb warantu'r un ufudd-dod yn ei farwolaeth.

Cyrhaeddodd y ffactor dyngedfennol yn nhemtiad yr anialwch, lle y bu i'w ufudd-dod ddadwneud anufudd-dod Adda.

Iddynt hwy yr oedd gofyn bod yn ufudd ac yn ffyddlon.

Nid oes le i gredu i'r un gof wneud ffortiwn ariannol, ond cafodd y rhan fwyaf ohonynt fwynhad yn eu gwaith drwy wasanaethu'r gymdeithas wledig yn ufudd ar bob adeg.

Yr wyf yn amau nad oedd gan ein gwron fawr o amynedd chwaith at ei gyfoeswyr ymhlith y beirdd yr oedd cynffon y weledigaeth hon yn chwipio'u dychymyg, sef y rhai megis Saunders Lewis a Gwenallt a fynnai gysylltu'r Gymru oedd ohoni yn y tridegau gyda rhyw Gymru reiol ufudd-Gristionogol mewn gorffennol di-ffaith.

Ond er iddo ymddangos yn dawel ac yn ufudd fel pawb arall, roedd ei feddwl yn effro.

Cynrychiolydd yr hil ddynol a'i dirprwy oedd Crist yn ôl syniadaeth Paul, a fu'n ufudd hyd angau'r groes a thrwy hynny gymodi dyn â Duw.

Gwelir ymhob un wlad debyg yr un ufudd-dod gwasaidd i'r wladwriaeth ymhlith trwch y bobl, a'r un annheyrngarwch cywilyddus i'r genedl sydd o dan ei phawen.

Yr oedd gofyn gwerthoedd a chanllawiau, a'r gwerthoedd llenyddol a argymhellodd oedd rhai wedi eu seilio ar ufudd-dod i awdurdod allanol traddodiad.

Anomali ydynt bob un yng ngolwg y rhai sydd am safoni'r byd, a'i wneud yn fwy rhesymegol, yn fwy rheolus ac yn fwy ufudd.

Nid mater diwylliannol yn unig oedd iaith iddynt ond moddion i sicrhau ufudd-dod.

Cyrhaeddodd ei fywyd o ufudd-dod ei uchafbwynt yn yr hunanymroddiad llwyr a wnaed ar bren er mwyn diddymu anufudd-dod Adda mewn cyswllt â phren.

Y mae'n synied am bechod fel petai wedi ei ragarfaethu, ac y mae'r ateb a gynigir yn ymddangos yn ddewis arwynebol o hawdd o'i gymharu â'r ufudd-dod llwyr y mae Duw yn ei hawlio.

Cychwynnodd pawb am y drws yn ufudd.

Cyflawnwyd motifau prynedigol yr Hen Destament yn ufudd-dod ac aberth terfynol Crist er iachawdwriaeth dyn.

Yr oedd y ddau fath wedi cofleidio drwy lw dlodi personol, diweirdeb, ac ufudd-dod i'w habadau neu eu prioriaid.

Unwaith eto byddai merched ifanc iawn yn ymuno â lleiandai ac roedd disgwyl iddynt addo bod yn dlawd, yn bur ac yn ufudd am weddill eu hoes cyn eu bod yn un ar bymtheg oed.

A chan ddilyn cyffelybiaeth a grybwyllwyd gan Iestyn Ferthyr ychwanegodd, "yr hyn a gaethiwodd y forwyn Efa drwy ei hanghrediniaeth, hynny a ryddhaodd Mair drwy ffydd." Drwy ufudd-dod llwyr enillodd Crist y fuddugoliaeth, a thrwyddo ef, fuddugoliaeth i'r ddynolryw.

Dyna pam roedden nhw'n rhoi'r cyffur ufudd-dod i bawb yn ystod y seremoni bob wythnos.

Mae o mor ffyddlon ac ufudd ag unrhyw gi defaid,' pryfociodd Cathy.

Cydnabyddid ei awdurdod i sicrhau disgyblaeth ac ufudd-dod o fewn cylch y teulu ac oddi allan iddo.

Arhosai'r ci ifanc yn ufudd nes yr oedd y lleill wedi mynd o'i flaen.

Anaml gewch chi gymeradwyaeth mewn cynhadledd newyddion ond rwystordd hynny mo'r lluoedd ufudd yr wythnos dwethaf.