Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ugeiniau

ugeiniau

Daeth rhyw dristwch drosof o weld bod yr hen bwll wedi'i gau a bod y trigolion yn baldorddi estroniaeth lle gynt, yn yr ugeiniau, Cymraeg a glywn.

Bydd gan ugeiniau o gymdeithasau ledled Cymru eu cofion eu hunain amdano.

Collwyd ugeiniau o ddawnsfeydd yn sgi%l y ddau ddiwygiad crefyddol ar droad y ganrif.

Cyrhaeddodd ugeiniau o'r llestri hyn heno, a chafodd rhai ohonynt eu dewis (?) i'w golchi a'u sychu erbyn y bore.

Gair y Rhos am y peth oedd "mynd i le%, ac yr oedd merched y Rhos y pryd hwnnw yn gwasanaethu mewn lleoedd fel Lerpwl, Liscard, Bolton, a Manchester wrth yr ugeiniau.

Fel yr aeth yr ugeiniau yn eu blaen taflwyd cannoedd o filoedd ar y dol.

Yng nghwrs y blynyddoedd fe gostiodd ffortiwn i'w saethu, ei raffu a'i lanhau er mwyn sicrhau diogelwch y dyniori a weithiai yn yr ugeiniau o fargeinion o'i ddeutu ac o tano.

Rhan o'r deffroad hwn oedd y Cymdeithasau Taleithiol; ond rhan arall, fwy arwyddocaol o bosibl, oedd y cymdeithasau Cymreigyddol a gododd fel grawn unnos trwy'r wlad yn ystod yr ugeiniau a'r tridegau, ac yn enwedig yn y cymunedau diwydiannol newydd yn ne-ddwyrain Cymru, a oedd yr adeg honno bron yn uniaith Gymraeg.

Yn Lladin, felly, hyd yn oed yn ugeiniau a thridegau'r ail ganrif ar bymtheg, y dewisodd Dr John Davies lunio ei ddadansoddiadau ysgolheigaidd ef o eirfa a gramadeg yr iaith Gymraeg.

Cyhoeddwyd ugeiniau ohonynt yn y papurau newydd dros y blynyddoedd, ac mae lle i amau fod ambell stori ddi-sail wedi cael ei darlledu hefyd.

Yn ugeiniau'r ganrif hon sylweddolwyd bod ein haul ar gyrion ein galaeth, y llwybr llaethog, ac yn un o gannoedd o filiynau o sêr a oedd yn troi o gwmpas ei ganol.

Y mae ugeiniau o lyfrau wedi eu sgrifennu ar yr agoriad hwn yn unig.

ac ugeiniau o ddynion yn haner noethion yn gwau trwy eu gilydd fel morgrug aflonydd, a'r chwys yn disgyn oddiwrthynt yn gafodydd i'r llawr; twrf y morthwylion a therfysg y peirianau mor ddychrynllyd, nes crynu y mynyddau cyfagos i'w sylfeini.

Parodd gar ar ugeiniau o ysgolion mewn gwlad a thref.

Cododd ei law i geisio rhwystro'r peth rhag ei dagu, a gwelodd ugeiniau o lysywod anferth yn nofio o'i gwmpas.

Mae ymgyrchwyr amgylcheddol, cenedlaetholwyr Cwrdaidd a'u cefnogwyr yn ymgyrchu yn erbyn y llywodraeth Llafur Llundain a'i bwriad i roi cymorth economaidd i wladwriaeth Twrci adeiladu argae a fydd yn golygu boddi ugeiniau o bentrefi Cwrdaidd.

Pan fyddai gan y gof egwyl ym misoedd yr haf, a'r ffermwyr yn brysur gyda'r cynhaeaf, byddai yntau yn 'troi pedolau', rhai ugeiniau o barau o wahanol faint, a gwelid hwy yn rhesi yn hongian yn yr efail.

Gwariodd ugeiniau o bunnoedd ar feddygon, ond bu flynyddoedd heb dderbyn nemawr wellhad; ac ni wellhaodd byth yn hollol, er ei fod ers llawer o amser yn gwbl ddi-boen.

Mecanig lleol yn ei ugeiniau cynnar ydy o ac fe ddywed yntau "dw i ddim wedi bod efo neb fatha chdi o'r blaen".

Dechreuais arni'n eiddgar i hel pentyrrau ohonynt ynghyd; yr oeddwn yn barod i wario rhai ugeiniau o bunnau yno.

Ers ugeiniau o flynyddoedd ni roes y drefn dreisgar fawr o gyfle iddynt ddatblygu dinasyddiaeth Gymreig; a thrwy eu blynyddoedd yn yr ysgol, ac wedyn yn y byd y tu allan fe'u gorfodwyd gan drais seicolegol gorthrymus i gredu mai Prydeinwyr oeddent yn gyntaf a Chymry yn ail sâl.

Roedd hyd yn oed rhai capteiniaid hen longau hwyliau y Cei yn uniaith Gymraeg pan oeddwn yn llanc yn yr Ugeiniau.

Bu+m mewn ugeiniau o bwyllgorau yn ystod fy oes, ond dyma'r pwyllgor mwyaf hwyliog a chartrefol y bu+m yn aelod ohono erioed.

Parhaodd hyn trwy gydol y rhyfel, ond gyda hyn o ddirywiad yn y sefyllfa: perswadiwyd glowyr Cymru i fynd i'r lluoedd arfog wrth yr ugeiniau o filoedd a chymerwyd eu lle gan Saeson a mewnfudwyr eraill.

Gwelodd Mrs Parry yr egwyddor hon ar waith droeon wrth gyfeilio i ugeiniau o gantorion byd-enwog ar lwyfan y Stiwt.

Yn y traethodau sydd wedi eu casglu yn Llyfr Ancr Llanddewi Brefi byddai cyfle iddo ystyried sut y trosid i'r Gymraeg yn y Cyfnod Canol ddarnau fel y Deg Gorchymyn, y Gwynfydau, Prolog Efengyl Ioan ynghyd ag ugeiniau o adnodau unigol o'r Hen Destament a'r Newydd.

Golygai gryn swm o arian i brynu peth felly, wrth gwrs, ond mi wyddai Nel yn eithaf da na fuasai gennyf byth ddigon o wyneb i;w gwrthod a minnau wedi gwario ugeiniau o bunnau ar lyfrau ychydig ddyddiau ynghynt.

Anferth o gerrig ithfaen yn sefyll ar eu cyllyll yn y ddaear yw'r rhain, wedi eu gosod yno drwy ymdrech ugeiniau neu gannoedd o lafurwyr, mae'n debyg.

Mae'r ysgrif Ladin a gerfiwyd arni wedi pylu'n enbyd ond gellir darllen y cofnod mai yn y fangre hon yr enillwyd Buddugoliaeth yr Halelwia yn ugeiniau'r bumed ganrif O.C Sut digwyddodd hynny?

Tua phum wythnos yn ôl daethpwyd o hyd i gorff bachgen oedd yn ei ugeiniau cynnar.

Y tu allan i dŷ gwyn cymharol ddi-nod yr olwg ar fin yr harbwr roedd ugeiniau ohonom ni'n aros am fymrym o oleuni.

Mewn ugeiniau o ffilmiau, ef yw'r Frankenstein sydd yng ngrym ei athrylith wyddonol a'i bersonoliaeth rydd yn creu anghenfil na all ei reoli.

Mae gan bob malwr ei le ei hun; term y gwaith amdano yw Bargen, ond coeliwch fi fuo erioed enw mwy camarweiniol; colled a llwgfa fu i ugeiniau, fel y dywedodd un ryw dro.