Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ulw

ulw

"Peidiwch â sathru'r peth petrol 'na mor gynddeiriog ulw," gwaeddodd.

'Drapits ulw.'

Gwylltiodd 'rhen ferch yn gacwn ulw.

Eu llosgi'n ulw a'r mwg yn ymlwybro hyd y bryniau fel trafaeliwr angau yn sūn clindarddach y fflamau, nes bod popeth a phobman yn ddu, y tân sy'n llosgi'r cyfan yn fud a'r holl sioe yn stopio'n bwt ym môn y clawdd terfyn.

Fe fydd y ddwy ddraig yn chwil ulw beipan.

Mewn llythyr at ei dad, y Brenin Harri IV, disgrifia'r tywysog sut y teithiodd tuag at Sycharth a 'phan gyrhaeddon ni, nid oedd yr un enaid byw i'w weld, ac felly llosgon ni'r llys cyfan yn ulw.' Rydym ni'n ffodus heddiw fod Iolo Goch wedi disgrifio'r llys hwn o'r Oesoedd Canol mor fanwl cyn iddo ddiflannu am byth.