Nid yw'n ddamweiniol mai yng ngwledydd mwyaf amlieithog Ewrop y datblygodd yr unbeniaid goleuedig eu cynlluniau uchelgeisiol am addysg gyffredinol i'r werin.
Tra gallai ysfa ddiwygiadol yr unbeniaid goleuedig helpu diwylliannau cysglyd, nid oedd Herderiaeth o reidrwydd yn ffafriol iddynt.
Roedd hi'n fantais dod o hyd i Gymry ar wasgar a chael golwg ar y sefyllfa drwy eu llygaid nhw - diffiniad ar blât o'r safbwynt Cymreig - ond faint o'r radicaliaid Cymreig fyddai'n mwynhau clywed Cymry De Affrica yn amddiffyn apartheid, neu'n clywed Cymry De America'n cefnogi unbeniaid yn erbyn tlodion, neu'n gwneud ffortiwn mewn gwledydd tlawd ar draul y brodorion?