Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

undeb

undeb

Cadarnhaodd Donal Lenihan, rheolwr Llewod 2001, ei fod wedi siarad â Graham Henry, ac iddo orfod cael caniatad Undeb Rygbi Cymru i wneud hynny.

Ffurfio Undeb Amaethwyr Cymru.

Gyda dyfodol y Wembley newydd yn y fantol, mae Ysgrifennydd Undeb Rygbi Cymru Dennis Gethin wedi dweud y bydd yr Undeb yn cynnal trafodaethau â'r Gymdeithas Bêl-droed ynglyn â'r posibilrwydd o ddod a mwy o brif gemau pêl-droed Pydain i Gaerdydd.

'Esgusodwch fi, Mister Arlywydd,' meddai un arall o'r cynorthwywyr dan ei anadl, 'ond Mrs Thatcher yw'r ddynes hon, ac nid Mrs Gandhi.' Fe wn i hynny'n iawn,' meddai Brezhnev yn ddiamynedd, 'ond Croeso i'r Undeb Sofietaidd, Mrs Gandhi yw'r geiriau sy wedi eu sgrifennu ar y darn papur yma o'm blaen i.' Mae'r stori yn ddameg berffaith o'r hyn y mae'r bobl yn ei farnu a aeth o'i le yn hanes yr Undeb Sofietaidd.

Y Trallwng Mehefin 16 Carwyn Jones, Aelod yn y Cynulliad; Roger Roberts, cyn-ymgeidydd y Democratiaid Rhyddfrydol; Dr John Davies yr hanesydd; Tom Jones, trefnydd Undeb y Gweithwyr yn y gogledd.

'Roedd y ras arfau rhwng America a'r Undeb.

Roedd John Plumtree, hyfforddwr Clwb Rygbi Abertawe, yn anghywir pan ddwedodd fod Rygbir Undeb wedi mynd yn soft.

Yn ystod yr amser yma roedd tad Euros yn Llywydd Cymmrodorion Llanelli a Llywydd Undeb Cymdeithasau Cymraeg Dwyrain Dyfed.

Faint well oeddynt o godi helynt a dyfod allan ar streic, onid oedd nerth Undeb tu cefn iddynt?

Ond pa obaith oedd ganddi yn erbyn aelodau darbodus Undeb y Mamau?

Roedd hi'n ddiwrnod hanesyddol ar Stadiwm y Mileniwm a diwrnod pan ddaeth Rygbi 13 i gartre Rygbi'r Undeb am y tro cynta.

Dywed Undeb Rygbi Cymru nad oes dim a all ef ei wneud yn y mater - a dydi hynnyn synnu neb - a phenderfynodd clwb Chris Stephens, Penybont, mai dim ond dirwy yr oedd yn ei haeddu - nid gwaharddiad.

Dro arall fe dorrodd i mewn i'w swyddfa drwy'r ffenest, gwasgaru ei ffeiliau, a rhwygo baner Jac yr Undeb oedd yn hongian ar y wal.

Dywedodd hefyd fod y ddirprwyaeth yn cael mynd i Rwmania am fod yr Undeb Sofietaidd wedi caniata/ u hynny yn gyfnewid am ganiatâd gan Brydain i gomisiwn Sofietaidd ddod i'r Eidal.

Ceir enghraifft o hyn yn y cymal sy'n son am 'Political Levy%; mae'n ffaith ers blynyddoedd fod gan bob aelod o bob Undeb yr hawl i beidio a thalu y 'Levy' yma.

Mae Undeb y Peirianwyr yn rhybuddio na all hyn barhau a bod rhaid i Brydain ymuno â chynllun arian yr ewro.

Davies yn parhau gyda'i ymdrech heddwch ac Undeb yr Annibynwyr yn pledleisio o blaid trafodaethau heddwch.

Mae'n rhaid i'r amaethwr drin ei ddefaid ond rhaid gwneud hynny yn y modd mwya diogel iddyn nhw hefyd, meddai llefarydd ar ran Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr.

Mae gan bob aelod o bob Undeb hawl i bleidleisio mewn unrhyw etholiad o fewn eu Hundeb.

Brwydr gyntaf yr Undeb oedd gwrthwynebu troi 16,000 erw yn Epynt yn faes tanio.

Roedd bob amser yn gredwr mawr mewn undeb.

Bydd swyddogion undeb hefyd yn cyfarfod â phenaethiaid cwmni dur Corus, sef Dur Prydain fel ag yr oedd yn cael ei adnabod.

Gall eglwysi fod yn eglwysi Annibynnol heb berthyn i'r Undeb a'r un modd gyda gweinidogion.

Y pwysicaf o'r pwyllgorau sefydlog oedd y Pwyllgor Gweinyddol - pwyllgor brys yr Undeb - a gyfarfyddai'n amlach na'r un arall i drafod materion yr oedd yn rhaid cael barn sydyn arnynt.

Plaid Cymru oedd y cyntaf i wneud datganiad cyhoeddus o blaid trefnu Ymgyrch am Senedd i Gymru, er bod Undeb Cymru Fydd dan arweiniad TI Ellis, Syr Ifan ab Owen Edwards, Moses Griffith, Dafydd Jenkins, Gwynfor Evans ac eraill yn cefnogi'r syniad.

Ar ein ffordd adref aethom i Lanelwedd er mwyn imi annerch cyfarfod o bwyllgor siroedd Brycheiniog a Maesyfed o'r Undeb.

Mae Undeb Rygbi'r Alban wedi cadarnhau y byddan nhw, yn eu cyfarfod blynyddol fis nesa, yn trafod creu trydydd tîm proffesiynol yn yr Alban.

Trwy undeb a chydweithrediad pawb o'r gynulleidfa, yn frodyr a chwiroydd, llwyddwyd hefyd i glirio'r ddyled oedd yn aros ar derfyn yr holl weithgarwch.

Er bod yr harbwr yn llawn o longau masnach yn chwifio baneri morthwyl-a-chryman yr Undeb Sofietaidd, roedd America yn gwahardd unrhyw fasnach rhyngddi a Chuba, ac roedd yna brinder pob math o bethau.

Ffurfio Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched dan arweiniad Emmeline Pankhurst.

Yn syth ar ôl thau yr etholiad, ar ddydd Gŵyl Ddewi, cyhoeddodd Undeb Cymru Fydd ei fod o blaid senedd a'i fod yn ymbaratoi i gynnal Cynhadledd yn Llandrindod i wyntyllu'r pwnc, ac i sefydlu peirianwaith i drefnu ymgyrch a deiseb.

Yn eu cyfarfod neithiwr rhoddodd Undeb Rygbi Cymru sêl eu bendith i Henry dderbyn y swydd.

Ni ddilyd gorbwysleisio'r gwahaniaethau rhwng y ddau ddehongliad hwn: golyga undeb â Christ ynuniaethu, mewn rhyw fodd, â'r dwyfol tra nad oes lle mewn theosis i'r syniad naill ai am berffeithrwydd dibechod neu am ymgolli digyfrwng yn y duwdod.

Gwenodd ar Leusa Parry, a oedd wrth ei phleser yn llnau'r brasus: llawenydd ei bywyd hi oedd y sglein ar yr allor: Talai o'i phoced ei hun am y Brasso ar ôl i Undeb y Mamau gwyno ei bod yn defnyddio gormod ohono; ond ni ddychwelodd Leusa Parry ei gwên, ac roedd hynny'n brifo o gofio fel y bu hi'n ddadlau drosti.

(gan fod cyflog Lleifior 'gryn dipyn uwchlaw telerau'r undeb (t.

Dim ond aelodau o'r undeb sydd â hawl i fod yn ecstras.

Mae Caerdydd yn siomedig gyda phenderfyniad Undeb Rygbi Cymru i wahardd eu blaen-asgellwr Dan Baugh am ddeuddeg gêm am sathru yn stod y gêm yn erbyn Abertawe y mis dwetha.

'Mae Graham Henry wedi dweud mai dyma'r ffordd ymlaen a dyna deimlad yr Undeb, hefyd,' meddai.

Cyhuddir cenedlaetholwyr yn fynych o ddymuno rhannu yn hytrach nag uno, gan bobl a ddywed, "Angen y byd yw undeb, nid mwy o raniadau%.

Yr oedd hynny'n fwy trawiadol o'i gyferbynu â'r hyn a oedd i ddigwydd cyn bo hir yn yr Undeb Sofietaidd ac yng ngwledydd Dwyrain Ewrob.

Yr elfennau hynny sydd ar goll gan nifer o'r timau undeb ar hyn o bryd.

Yng Nghaerdydd neithiwr, 'roedd Undeb Rygbi Cymru'n cyfarfod i drafod, ymysg pethau eraill, strwythur cystadlaethau'r tymor nesa, nifer y clybiau fydd yn y cystadleuthau hynny, a'r cwestiwn o glybiau'n esgyn a disgyn i'r Prif Gynghreiriau y tymor ar ôl nesa.

Mae Undeb y Myfyrwyr ym Mangor wedi cyhoeddi eu bod yn lansio cyfres o nosweithiau er mwyn hybu cerddoriaeth gan grwpiau ifanc.

Am eu bod ar wasgar yn Iraq, Iran, Twrci, Syria a'r Undeb Sofietaidd, does neb yn siwr beth yw eu nifer.

Ond rwyn siwr iddo wneud hynny yn y pendraw yn sgîl arafwch Undeb Rygbi Cymru i wneud unrhyw ddatganiad ar y mater.

Felly, y mae Undeb Cymru Fydd wedi penderfynu cynnal cynhadledd i ystyried arwyddo deiseb o blaid Senedd i Gymru.

Hoffwn weld Cyngor Wrecsam yn galw pobl y Rhos, Undeb y Glowyr, ac Undebau'r cylch at ei gilydd i fynd ati i achub y Stwit.

'Croeso i'r Undeb Sofietaidd, Mrs Gandhi,' meddai yn ei ffordd araf, drymaidd arferol.

Mudiad yw hwn, yn ymgorffori Undeb y Cymry ar Wasgar a sefydlwyd yn 1948, sy'n creu a chynnal dolen gydiol rhwng Cymru a phobl o drâs Gymreig a chyfeillion Cymru ym mhedwar ban y byd.

Dafydd Wigley oedd y cyntaf i darfu rhywfaint, diolch byth, ar y tangnefedd gyda chais ymosodol am ddatganiad ar y sefyllfa ddiweddaraf i sicrhau arian cyfatebol ar gyfer cronfeydd Amcan Un yr Undeb Ewropeaidd.

Cafwyd anerchiadau gan J.Oliver Stephens, Cadeirydd yr Undeb ar y pryd, ac R. G. Berry, y Cadeirydd-etholedig.

* Trefniadau undeb llafur

Gorchuddiwyd y bwrdd ar y llwyfan gan Jac yr Undeb a chyhoeddodd Price yn ei lais godidog mai testun yr anerchiad coffa fyddai, "I lawr ag ef mal rhyw gi%!

Benthyciodd rygbir undeb nifer o dactegau amddiffynnol oddi wrth rygbi tri ar ddeg a dyna pam mae galw cynyddol am wasanaeth gwyr fel Phil Larder, Ellery Hanley a Clive Griffiths.

Dylsair Undeb benodi swyddog, ond maen rhaid cael person â chanddo wybodaeth drylwyr o'r gêm.

Ar hyn bryd mae diffyg statws swyddogol i'r Gymraeg yng Nghymru yn 'anomali' o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Eglurodd TI Ellis fod yr Undeb wedi bod yn trafod y mater er mis Hydref ond wedi penderfynu cadw'r bwriad yn ôl nes byddai'r etholiad cyffredinol wedi mynd heibio.

Mae Undeb Rygbi Cymru yn cynnal cyfarfod brys o'r Cyngor Cyffredinol nos yfory i drafod cynnig y dywedir fod Henry wedii dderbyn.

Y flwyddyn honno yr oedd cyfarfodydd blynyddol Undeb yr Annibynwyr yng Nghaergybi.

Mae'r elyniaeth tuag ati'n cynnwys yr hen Undeb Sofietaidd yn ogystal â'r Unol Daleithiau.

Ac yn anffodus bob wythnos mae papur newydd Undeb Cenedlaethol y Gohebwyr yn cario hanesion newyddiadurwyr drwy'r byd sy'n cael eu harteithio, eu carcharu a'u lladd.

Ir addolwyr hyn, nid syniad yw undeb Ewropeaidd, ond realiti.

Maent hefyd am weld Twrci yn dod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd - bu meysydd awyr milwrol Twrci yn ganolfannu cyfleus iawn i alluogi awyrennau yr Taleithiau Unedig fomio Irác.

Ac ar ôl cyfarfod rhwng Undeb Rygbi Cymru a chynrychiolwyr y clybiau neithiwr mae gobaith bod y broblem ynglyn â strwythur y tymor nesa yng Nghymru wedi'i ddatrys.

Mae'r Undeb yn credu'n gryf y dylai'r clafr barhau i fod yn glefyd sydd raid ei hysbysu i'r awdurdodau ac y dylai fod pwerau i rwystro symud defaid er mwyn gallu trin diadelloedd sydd wedi eu heintio.

Mae prif glybiau Cymru'n cyfarfod a'r Undeb eto heno i gytuno ar amserlen gemau'r tymor nesa.

Nid oedd ei sel efengylaidd wedi ei gyfyngu i'r Cymry un unig, gan iddi ddylanwadu yn fawr ar yr Undeb Eglwysi i wahodd cenhadwr Spaeneg i bregethu i'r "natives", fel y byddai hi'n dweud.

Mae sefydliadau trawsewropeaidd wedi hen arfer â defnyddio mwy nac un iaith: yr Undeb Ewropeaidd â'i un iaith swyddogol ar ddeg, a Chyngor Ewrop yn defnyddio pump yn aml.

Er bod dipyn dros hanner o ddynion rêl Llanelli yn perthyn i undeb, ni chyffyrddwyd yr ardal gan y streiciau answyddogol a ddigwyddodd mewn mannau eraill o ddechrau mis Awst.

Mae Undeb Rygbi'r Alban wedi bod yn anhapus â'r syniad o glwb newydd.

Cymerer wedyn ran olaf Soned XXXI: Cusana'r lloer y lli, mae'r ffrydiau'n dwyn I'r wendon serch-sibrydion llyn a llwyn, Ac awgrym ddaw i ddyn drwy gyfrin ddor Y cread o ryw undeb dwyfol hardd A dreiddia drwy'r cyfanfyd; tithau'r Nos, Delweddu wnei y dylanwadau cudd; O'r llwydwyll byw-ymrithia i wyddfod bardd Ei ddelfryd hoff, a genir odlig dlos Neu awdl gain neu farwnad felys-brudd.

Oswald Mosley yn ffurfio Undeb Ffasgwr Prydain.

'Ond bydd David Pickering yn aros ymlaen ar y Pwyllgor Cyffredinol yr Undeb.

Gan mai ymwelydd dros dro yn unig oeddwn i, fentrwn i ddim beirniadu cyflwyr yr economi yn yr Undeb Sofietaidd, oni bai fod y bobl hwythau'n teimlo mor ddig yn ei gylch erbyn hyn.

'Ond rwyn credu bod pob un yn deall y rheswm pam - ond yr Undeb.

Mewn llythyr at Mrs shepard, dywedodd Mr Bob Parry, Llywydd UAC, bod yr Undeb yn bendant o'r farn y dylid ail-gyflwyno mesurau gorfodol i reoli'r clafr oherwydd cynnydd y clefyd.

Gwell fyth, mynnai Cynhadledd yr Undeb yng Nghaergybi roi imprimatur swyddogol ar safle Penri fel arwr Ymneilltuaeth.

Ailenwi Pwyllgor Diogelu Diwylliant Cymru, a sefydlwyd ym 1939, yn Undeb Cymru Fydd.

Mae Undeb Rygbi Lloegr wedi cefnogi'r bwriad i gwtogi tymor Pencampwriaeth y Chwe Gwlad o ddeg i saith wythnos.

Clywsom fod un ystordy yn Havana yn llawn o antifreeze ac erydr eira o'r Undeb Sofietaidd!

Cyfansoddodd T.Gwyn Jones (Tregarth) gân leddf ar y geiriau, "Mae'r bechgyn wedi mynd i ffwrdd, Mae'n ddistaw hebddynt wrth y bwrdd..." a chenid hi gyda dwyster yn yr Undeb yn fynych.

Cyfrannodd yn gyson at waith Undeb yr Annibynwyr.

Yr oedd hi'n ddadl hir, meddai Dennis Gethin, Ysgrifennydd Undeb Rygbi Cymru.

Siomedig oedd yr ymateb cyffredinol i berfformiad tîm Rygbi Undeb Cymru yn erbyn Eryrod yr Unol Daleithau ddydd Sadwrn.

Erlynwyd yr undeb gan reolwyr y cwmni a bu'n rhaid iddo dalu'n ddrud am gefnogi'r streicwyr.

Er bod y rhan fwyaf o'r rhubanau wedi eu cynhyrchu yn y Taleithiau Unedig, 'roedd rhai yn dod o Japan, Gorllewin, yr Almaen, Seland Newydd, Prydain, yr Undeb Sofietaidd, Guatamala, Periw, Tanzania, Canada a'r Iseldiroedd.

Doedd gweddill y cymorth a ddeuai o'r Undeb Sofietaidd - prisiau ffafriol am siwgr yn arbennig - ddim yn ddigon i greu economi ffyniannus.

Dywedodd ei fod yn rhyfeddu fod amddiffyn timaur undeb wedi cryfhaun sylweddol ond nododd ei syndod i hyn ddigwydd ar draul symudiadau ymosodol.

'Os na chawsoch chi eich ethol gan y gweithwyr, na'ch enwebu gan undeb llafur, yna mae'n gas gen i eich siomi, ond nid gweithiwr-reolwr ydach chi.

Ieithoedd swyddogol yr aelod-wladwriaethau yw ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Ysgrifennydd Cyffredinol NATO, yr Arglwydd Robertson, wedi wfftio honiadau bod cynlluniau'r Undeb Ewropeaidd i greu eu llu milwrol eu hun yn tanseilio dyletswyddau a dylanwad NATO.

Glyn Davies, Ysgrifennydd Rhanbarth yr Undeb, yn ffonio fin nos eisiau cyfarwyddyd sut i gynghori ffermwyr llaeth i lenwi ffurflenni cais am y cwota ychwanegol.

Cynigiwyd saith enw a gofynnwyd i Gyngor yr Undeb ddewis tri ohonynt fel rhestr fer.

Tua diwedd mis Gorffennaf, cytunodd y prif gwmnfau llongau i gydnabod Undeb y Morwyr a rhoi cyflogau uwch i w aelodau.

Arwydd o'r deffroad newydd oedd Streic Chwarel y Penrhyn ym Methesda ar droad y ganrif, anghydfod a oedd yn seiliedig ar ddymuniad y chwarelwyr i gael undeb effeithiol i amddiffyn eu hawliau, a gwrthwynebiad Ail Farwn y Penrhyn i'r dyhead hwnnw.

'Os gall hwnnw ddadfeilio comiwnyddiaeth drwy'r Undeb Sofietaidd, fe ddylai fod yn bosib i ni wneud yr un peth i Beronistiaeth yn y wlad hon,' meddai Menem.

Ac yr oedd y chwarelwyr yn ddall (yn ôl ei feddwl ef) i beidio ag ymuno â'r Undeb, ac ymladd am isrif cyflog a safon gosod.

Dyfynnaf o adroddiad yr Undeb i'r wasg y llynedd - geiriau'r Ysgrifennydd, Denis Evans: "Bu Cymru erioed yn un o genhedloedd gorau rygbi trwy odidogrwydd Cymry.

Wedi'i noddi gan yr Undeb Ewropeaidd, mae Eurolang wedi ei leoli ym Mrwsel, a'i fwriad yw delio a meterion yn ymwneud a lleiafrfiedd diwylliannol Ewrop.

Cychwyn Ymgyrch Senedd i Gymru dan nawdd Undeb Cymru Fydd.