Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

undod

undod

Erbyn heddiw gwelir fel y gellir uno'r ddau symudiad - y canoli ar lefel Ewrop, a'r datganoli ar lefel Cymru - i greu rhyw fath o synthesis ac undod: Cymru o fewn y Gymuned.

`Mae undod Arabaidd yn dibynnu ar genhedlaeth newydd'; `Ni yw'r genhedlaeth i wneud hyn oherwydd ni yw cenhedlaeth y dicter'; `Rhaid i ni gael chwyldro i ennill rhyddid i'r byd Arabaidd'; `Dylai America losgi yn uffern'.

Cyfrifid bod yr Eglwys, y wladwriaeth a'r uned deuluol yn undod patriarchaidd a sylfaenesid ar ufudd-dod ac awdurdod.

Mae Gorsedd Lloegr yn sumbol o undod Prydain Fawr.

Canfyddir yr un syniad o undod hefyd mewn cyfeiriadau at warchodaeth gwraig dros ei theulu neu feistres dros ei morynion neu fam dros ei phlant.

Fel y dehonglid undod y teuly yn elfen bwysig yn fframwaith y gymdeithas pwysleisid hefyd gyfrifoldeb yr uniad priodasol dros faterion moesol ac i greu cytgord rhwng ceraint a theuluoedd a'i gilydd.

Y gamp ydi creu priodas - undod organig - rhwng y cyfan.

Ar ôl 1536 fe beidiodd y syniad o Gymru'n genedl, yn undod hanesyddol, â bod yn atgof na delfryd na ffaith.

'Diben y gwersyll yw dysgu egwyddorion undod Arabaidd a gwrth-imperialaeth,' meddai.

Mynegodd ef ei argyhoeddiad, a'i ddilyn gan bob beirniad o bwys, mai'r bardd yw'r un â'r gallu ganddo i feddwl yn drosiadol, i glymu dau argraff efo'i gilydd yn undod clos - i weld henaint yn ddeilen grin ar drugaredd gwynt, i weld bedwen yn lleian, i glywed cân ceiliog yn y pellter yn dristwch mwyn hiraeth, i deimlo yn hen gapel gwag, i droi Angau yn weinidog yn dod i'w gyhoeddiad.

'Mae undod Arabaidd yn dibynnu ar genhedlaeth newydd.'

O'r undod teuluol y datblygasai rhwymiadau priodasol i glynu teuluoedd a chynnal trefn a sefydlogrwydd.

Ni welwyd y fath undod cenedlaethol yn ein hamser ni.

Cynrychiolai yr ieithoedd eraill elfennau estron a oedd yn dinistrio undod ysbrydol y genedl.

Undod Arabaidd oedd y cymhelliad ar gyfer pob gweithred wleidyddol, a'r allwedd i ddatblygiad athroniaethol Gadaffi.

Yr undod Arabaidd yma oedd y cymhelliad ar gyfer pob gweithred wleidyddol a'r allwedd i ddatblygiad athroniaeth Gadaffi.

Creadigaeth Cymru Gymraeg yw hi, yr unig sumbol sy'n aros o undod hanesyddol cenedl y Cymry, yr unig muthos Cymreig.

O'i fewn y ffynnai'r diwylliant a'r grymusterau gwareiddiol hynny a roesai hynodrwydd i deulu ac ardal ac a luniai undod unigryw mewnblygol a safai dros werthoedd cynhenid y gymdeithas.

Pa arwydd gwell o ewyllys da ac undod na bod y Cynulliad yn penderfynu cychwyn ar lwybr newydd ar gyfer ysgolion gwledig.

I'r ddeuddyn hynny y cyfrennid iddynt ddawn Duw y rhoddwyd yn llawn y fraint o fwynhau ' oes winwydd mewn gras union'.Er cryfed ydoedd yr elfen dylwythol ac er mor anodd ydoedd ymwrthod ag awdurdod y tad dehonglid yr ystad briodasol yn bartneriaeth Gristnogol, a phywsleisid yr angen am undod o fewn y briodas honno a allai adlewyrchu undod y wladwriaeth dan y Goron.

'Roedd ei genedlaetholdeb yn pwysleisio'r undod rhwng hanes, llenyddiaeth, celfyddyd, gwerthoedd cymdeithasol ac ideolegau gwleidyddol.

Mae cenedl, meddai, yn gymundod iaith, yn gymundod tiriogaeth, ac undod gofod.

Effaith gweithgarwch hereticiaid fel y Waldensiaid a'r Lolardiaid a'r Hussiaid oedd tanlinellu ofnau'r awdurdodau o ddyddiau Innocent III i lawr at drothwy'r Diwygiad Protestannaidd mai rhwygo undod a dysgeidiaeth a magu annisgyblaeth a gwrthryfel a ddeilliai o roi rhyddid i leygwyr ddarllen yr Ysgrythur.

Yr unig bwnc trafod oedd undod Arabaidd yn erbyn y gelyn Iddewig.

Yr oedd Anghydffurfiaeth Gymraeg yn clymu'n undod wlad a thref.

Golygai 'gwladwriaeth', yn ei hanfod, holl oblygiadau dinasyddiaeth dda mewn undod, gwasanaeth a gallu.

Cysylltid hwnnw â rhir ei gŵr, sef etifedd Nannau, i greu undod parhaol a nerthol.

Mae undod economaidd yn bod hefyd, ac undod seicolegol.

Os yw awdur yn dewis cynnig i'r darllenydd ddarn o ffuglen sydd i fod yn undod cyfan o fewn pump neu chwech neu hwyrach ddeg o dudalennau, yna mae'n rhaid wrth ddisgyblaeth cywasgu ac artistwaith cynildeb i wneud y peth yn werth chweil o gwbl.

Undod y mae trwch etholwyr Ceredigion am ei weld yn llacio ac yn darfod.

Cychwyn gyda gwrtheb a wnaeth yr awdur - ar Genedlaetholdeb yr oedd y bai am bicil Cymru gyfoes, cenedlaetholdeb gwladwriaethau Ewrop, gyda'u pwyslais ar undod a chryfder ar draul diwylliannau lleiafrifol.

Daeth telegramau yn ôl i Dy Undod (pencadlys Cymdeithas y Gweision Rheilffyrdd) fel hwn o Gasnewydd: '...' .

Costiodd y ddau ryfel yn ddrud i'r llywodraeth ganolog, a oedd yn benderfynol o amddiffyn undod gwladol Ethiopia, yn arbennig am fod Massawa, un o'i hunig ddau borthladd, ar dir y gelyn yn Eritrea.

Os oeddwn wedi disgwyl rhywbeth hurt, fel miloedd o blant yn canu a dawnsio i gyfeiliant darlleniadau o'r Llyfr Gwyrdd sy'n cynnwys doethinebau Gadaffi, fe sylweddolais yn fuan mai ysgolion oedd y rhain i bregethu undod Arabaidd yn erbyn y gelyn Iddewig.

`Diben y gwersyll,' meddai, `yw dysgu egwyddorion undod Arabaidd a gwrth-imperialaeth.