Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

undonedd

undonedd

Ydi e'n ormod i feddwl fod y cyfansoddwr yn meddwl am undonedd bywyd, ond y gellir dod â lliw i fywyd er mai'r un thema sydd iddo fel petai?

Bron na ddywedwn fod undonedd gwastatiroedd yn groes i natur y Celt a hynny am ei fod o bosib wedi etifeddu tueddiadau sy'n medru ei godi'n sydyn i'r entrychion, a bod undonedd yn lladd ei ysbryd.

A wyddoch chi be, mae'n rhyfedd fel y mae pethau bychain yn mynd yn bethau mawrion pan fônt yn torri þ pe na bai ond un iod fechan þ ar undonedd a gorgyffredinolrwydd bywyd dyddiol dyn ar y Dôl.

A dod â lliw i undonedd bywyd wnaeth Iesu on'dife, a'r disgyblion, a ffordd rhai a'u gwelodd nhw wedi'r atgyfodiad o ddweud fod colled arnyn nhw oedd dweud, 'Llawn o win melys ydynt'.