Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

unfan

unfan

Toc dechreuodd y car droi yn ei unfan gan wneud sŵn tebycach i awyren yn hwylio i godi nag i ddim arall, ac fel y sathrai JR ar y sbardun suddai'r cerbyd yn is ac yn is nes o'r diwedd iddo gloi yn ei unfan.

Allan ar y môr yr oedd ei le yntau, nid yn tindroi'n ei unfan yn yr hen harbwr, yn rhwydo pysgod ddydd ar ôl dydd, yn eu glanhau a'u gwerthu heb fawr o dâl am ei drafferth na fawr o seibiant o fore gwyn tan nos.

Daeth y llais o'r tu ôl i'r milwyr, o gysgod y tryc agosaf, mor sydyn ac mor annisgwyl fel y safodd pawb yn ei unfan yn fud ar amrantiad.

Anaml y gwelid ef yn sefyll yn bwyllog yn ei unfan, am y byddai'n gwingo'n barhaus.

Yn y lle cyntaf, ni all model statig, diamser, ymdrin o gwbl ag un o'r problemau ymarferol pwysicaf sy'n wynebu pob pennwr polisi%au, sef problem amseru; ac yn yr ail le, yn groes i dybiaeth (vi), nid ydyw gallu cynhyrchu'r economi yn aros yn ei unfan hyd yn oed dros gyfnod cymharol fyr.

Edrychwch yn ôl i gyfeiriad Pen-yr-ole-wen a throwch yn araf yn eich unfan draw at y Tryfan, "llofrudd o fynydd" chwedl Gwilym R Jones, heibio dannedd y Gribin at unigeddau'r Glyderau a'r Garn.

Golyga hyn fod lefel cynnyrch cyflogaeth lawn yn darged symudol ac, oherwydd hynny, yn fwy anodd o lawer i'w fwrw na tharged sy'n aros yn ei unfan.

Er i rywun yn y cwmni weiddi ar i bawb sefyll yn ei unfan, dechreuodd hi chwalu'i ffordd drwy'r boblach gan faglu ar draws traed hwn a hon ac arall wrth iddi ei theimlo'i hun yn cael ei thynnu ato fel at fagnet.

A'u dewis oedd aros yn yr unfan a marw; mynd i mewn i'r ddinas a marw o newyn; neu fentro i wersyll y Syriaid.

Safodd Thomas Parry'n ei unfan: 'doedd i wraig ddiarth gerdded i gwt mochyn gefn nos ddim yn beth arferol.

"Troi yn 'i unfan mae o?" Ni theimlai JR fod galw am iddo ateb cwestiwn rhetoregol o'r fath.