Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

unfed

unfed

Pan ymddieithriodd yr uchelwyr a'r bonedd oddi wrth eu Cymreictod yn yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg ymlynent wrth Loegr a Seisnigrwydd.

Ni allaf feddwl am unrhyw wlad arall yn y Gorllewin oddi ar yr unfed ganrif ar bymtheg, ddim hyd yn oed wlad Babyddol, lle y tra-arglwyddiaethwyd mor llwyr ar y gair printiedig gan weithiau crefyddol ag y gwnaed yng Nghymru'r ganrif ddiwethaf.

Ar y llaw arall cysylltwyd Vitalis a Llanwyddalus o'r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen.

Yr oedd mawr angen am wneud hynny, yn nhyb Llwyd a'i gyd-Gymry gwlatgar, oherwydd yr ymosod o'r newydd yn yr unfed ganrif ar bymtheg ar wirionedd yr hanes gan Williams Camden a'r Eidalwr Polydore Vergil yn arbennig.

Yr oedd Normaniaid yn Sir Henffordd tua chanol yr unfed ganrif ar ddeg ac yr oedd Henffordd yn dref bwysig.

Ar ol gorchfygu rhannau helaeth o dde Cymru yn yr unfed ganrif ar ddeg a'r ddeuddegfed ganrif lluniodd y Normaniaid arglwyddiaeth o Frycheiniog a'i galw'n Brecknock, eu ffordd hwy o geisio ysgrifennu ac ynganu'r ynganiad lleol Cymraeg ar yr enw - Brechenog.

Oherwydd mai canrif amaethyddol oedd yr unfed ganrif ar bymtheg i'r rhelyw o Gymry, yr oedd cysylltiad agos iawn rhwng dyn a'r ddaear.

Yn yr unfed ganrif ar bymtheg daeth y chwyldro diwylliannol yr ydym yn arfer cyfeirio ato fel y "Dadeni Dysg" i'w anterth.

Ond daliodd cynulleidfaoedd bychain ohonynt i addoli a darllen yr Ysgrythurau yn y dirgel mewn llecynnau diarffordd yn Ffrainc a'r Eidal i lawr at adeg y Diwygiad Protestannaidd yn yr unfed ganrif ar bymtheg.

Golwg wahanol ar Gymru'r unfed ganrif ar bymtheg a gawn yn Dyddiadur Mari Gwyn Rhiannon Davies Jones sy'n seiliedig ar fywyd Robert Gwyn y ffoadur Catholig yn oes Elizabeth, ac y mae Bobi Jones yntau'n ymdrin ag argyhoeddiad crefyddol ysol Richard Gwyn y merthyr Catholig yn Gwed Gwyn yn Barn.

Yr oedd Ffair Llanwyddalus 'Ffair Dalis Fawr' yn enwog o'r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen.

Tybed a fyddech chwi'n cytuno mai gywyddoniaeth a'i llawforwyn weithredol, technoleg, fu'r cyfrwng pennaf i newid, yn wir, drawsnewid, ein byd a'n cymdeithas, byth oddi ar Chwyldro Wyddonol yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg?

Ni fynnaf drafod yma odid ddim ar yr Oesau Canol a pharhad y math (neu'r mathau) o genedlaetholdeb a geid yno, am y rheswm syml fy mod o'r farn inni gael yn rhan o'n cynhysgaeth o'r unfed ganrif ar bymtheg i lawr lun ar genedlaetholdeb diwylliadol 'newydd', cenedlaetholdeb ag iddo nodweddion anfediefal, cenedlaetholdeb yn y meddwl a'r dychymyg a oedd yn ymgais i wrthsefyll nerth y dylanwad allanol a oedd arnom.

Magu cymdeithas o bobl ddylai fod pwrpas addysg, ac nid canolbwyntio ar gynhyrchu cyfrifiaduron a pheiriannau ateb ffôn yr Unfed Ganrif ar Hugain.

Mae'n amhosibl yma olrhain yn fanwl y newidiadau a wnaethpwyd i lwybr Afon Cefni rhwng diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg a chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Yn y cyfarfod - fydd yn cael ei gynnal am 12.30 Dydd Mercher bydd y Gymdeithas yn egluro pam yr ydym yn galw am Ddeddf Iaith berthnasol i'r unfed ganrif ar hugain.

Ysgrifennodd yr hanesydd Herbert Butterfield, yn ei lyfr The Origins of Modern Science, : " Mae Chwyldro Wyddonol yr unfed ganrif ar bymtheg yn bwysicach na dim a ddigwyddodd ers cychwyn Cristionogaeth.

Bydd y cerddwyr sy'n dibynnu ar y nerth yn eu traed yn cario sgrol sy'n galw am Ddeddf Iaith Newydd i'r unfed ganrif ar hugain.

Yr wyf yn cyfeirion at Fucheddau saint megis Cadog, Gildas, Carannog a Phadarn, a gyfansoddwyd yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar ddeg a'r ddeuddegfed.

Yr oeddynt, fodd bynnag, ymhell o fod yn llwm eu byd, fel y dengys eu cartref helaeth sydd bellach wedi'i adfer gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i fod yn rhywbeth tebyg i'r hyn ydoedd yn yr unfed ganrif ar bymtheg - proses sydd, gyda llaw, wedi profi fod y ty presennol, yn wir, yn fangre geni a magwraeth William Morgan, (yr oedd amheuaeth o'r blaen a allai fod yn ddigon cynnar).

Amser a lle: unfed ffens ar bymtheg, cwrs tair milltir dros y perthi, Sandown Park, dydd Gwener, Tachwedd, mewn glaw mân oer cyson.

Mi ragdybiaf hefyd y bydd terfyn ar y Gymraeg yn iaith fyw, ond parhau'r tueddiad presennol, tua dechrau'r unfed ganrif ar hugain, a rhoi bod dynion ar gael yn Ynys Prydain y pryd hynny.

Mae'r farn yn gyson ag arferion caoloesol a gwelir llyfrau penyd o'r chweched ganrif hyd at yr unfed ganrif ar ddeg yn gosod cyfnod o saith mlynedd am lofruddiaeth.

Ganed Richard Davies rywbryd yn ystod deng mlynedd cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg - ni allwn fod yn fwy pendant na hynny, gwaetha'r modd.

Parhau gyda'i ddilyniant o nofelau am y rhyfeddol Gatrin o Ferain yn yr unfed ganrif ar bymtheg a wnaeth R.

Ni ddechreuwyd defnyddio cerrig i adeiladu eglwysi yng Nghymru tan yr unfed ganrif ar ddeg.

Cyfnod cythryblus a chynhyrfus oedd yr unfed ganrif ar bymtheg.

Yr oedd ei dad a'i fam yn hanfod o deuluoedd uchelwrol Cymreig, ond erbyn canol yr unfed ganrif ar bymtheg yr oeddynt yn dal eu tir gan y Goron fel is- denantiaid i deulu pwerus Wyniaid Gwedir, ger Llanrwst, tirfeddianwyr mwyaf yr ardal o ddigon.

Y mae'n cynnig esboniad posibl ar ddistawrwydd Gildas ynghylch Arthur, ac ar y traddodiad amdano fel gormesdeyrn a rex rebellis, chwedl Caradog o Lancarfan, a geid yn yr Eglwys yn yr unfed ganrif ar ddeg.

Fel disgrifiad o falchder ymffrostgar Cymry'r unfed ganrif ar bymtheg yn eu hanes a'u tras, prin y gellir gwella ar eiriau'r Esgob Richard Davies: 'Ni wna vi son am vrddas, parch, ac anrhydedd bydol yr hen Brytaniait: tewi a wnaf am y gwrolaeth, dewrder, buddugolaythay, ac anturiaythae y Cymru gynt, mi a ollynga heibio y amryw gylfyddyday hwynt, synwyr, dysc, doythineb, ar athrylith ragorawl.

I gynmdeithas a goleddai syniadau o'r math y ganed Syr John Wynn yng nghanol yr unfed ganrif ar bymtheg.

Yn yr unfed ganrif ar bymtheg, sef canrif y gerdd 'Calanmai' gan fardd anadnabyddus, fe edrychid ar holl brofiadau'r ddynoliaeth yng nghyd-destun cylchdro'r tymhorau a chyd-ddibyniaeth bywyd a marwolaeth.

Er mai yn y bymthegfed ganrif a'r unfed ar bymtheg y cyrhaeddodd y proses hwn ei anterth, yr oedd eisoes i'w ganfod ar waith yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.

Yr ydym yn hen gyfarwydd bellach â darllen am gyfraniad teulu'r Wyniaid o Wedir, Sir Gaernarfon, i hanes cymdeithasol Cymru rhan olaf yr unfed ganrif ar bymtheg a'r rhan helaethaf o'r ganrif a'i dilynodd.