Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

unffurf

unffurf

Gan hynoted oedd ei oslef a chan mor arbennig oedd ei arddull, ac, ar un adeg, gan mor unffurf oedd ei wisg - crys coch a siwmper goch (ni hoffai siwt) - a chan ei fod mor gaeth i'w bibell a'i sbectol, yr oedd yn wrthrych parod i'r parodi%wr, er gofid mawr i'w fam, ac, weithiau, iddo ef ei hun.

Gan fod cymaint ohonom, cymaint o unedau gweddol unffurf, mae yna debygolrwydd fod y rhan fwyaf o'r hil yn mynd i ymateb mewn modd y gellir ei ragfynegi gyda pheth sicrwydd.

Ac felly y dois i ddeall mai siwt y wyrcws oedd y siwt lwyd unffurf a welswn yn yr ysgol.

Dywed Raymond Williams fod tuedd wedi bod i ystyried yr is-ffurfiant mewn modd cul, fel rhywbeth unffurf a statig, tra bod syniad Marx ohono'n llawer ehangach: Proses yw'r is-ffurfiant, meddai, nid rhywbeth statig , ac mae'n broses sy'n cael ei nodweddu gan ddeinamig y gwrthdaro sy'n dod o wrthddywediadau y cysylltiadau cynhyrchu, a'r cysylltiadau cymdeithasol sy'n deillio ohonynt.

Onid oedd y digwyddiad yna mor wahanol, mor eithriadol i'r patrwm cyson ac unffurf o ladd fesul un, nes i Wil Dafis fynd i dybied bron fod Ap wedi neilltuo rhyw sylw anffafriol iddo ef yn benodol?

Yna, tywyllwch dudew, unffurf y nos yn llonyddu'r llygaid yn llwyr, a'r holl fryd yn cael ei ganoli ar seiniau 'soniarus' (gair sydd ynddo'i hun yn soniarus) y gwyddau gwylltion ymhell uwchben yn rhywle.

Y mae hi eto o dan ei choron yn ei hawddgarwch arferol, ac yn ymddangos yn hapus ddiogel rhwng rhengoedd tal gosgordd unffurf y 'rose bay willow herb na fu erioed yn fwy llewyrchus nag yw eleni.

Felly, gwaith amhosibl i'r colegau oedd sicrhau dim byd tebyg i safon unffurf ac uchel wrth dderbyn myfyrwyr.