Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

unigolyddol

unigolyddol

Gyferbyn a'r Rex lleolir siop y Valley Videos ac yn oes mwy unigolyddol y peiriant fideo aeth y sinema gyhoeddus ar i lawr (er bod arwyddion o ddadeni diweddar yn ei hanes gyda dyfodiad y system multiplex o America lle ceir ffilmiau, bariau, clybiau a bwytai oll o fewn yr un adeilad).

Gallesid bod wedi darlunio deffroad amgenach na deffroad unigolyddol enaid clwyfus, sef deffroad gwerin i frwydro yn erbyn gormes ac anghyfiawnder.

Gwerthoedd unigolyddol yr oes ddiwydiannol a chyfalafol honno oedd gwerthoedd y Cymry.

Yr oedd yn gymeriad llenyddol cwbl unigolyddol.

(Rhyfedd, gyda llaw, mor hawdd yw pentyrru ansoddeiriau amrywiol - gwrthgyferbyniol yn wir - wrth geisio cyfleu naws y gwaith; dramatig, telynegol, &c.) Gwiriondeb, wrth gwrs, fuasai haeru mai'r nofel hon sy'n rhoi'r darlun 'cywir'; dehongliad unigolyddol iawn a geir.

Yn sicr, nid ymarferiad unigolyddol oedd llenydda iddo.