Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

unigrwydd

unigrwydd

Doedd ei unigrwydd artistig chwaith ddim yn unigryw.

unigrwydd...

Fe atseiniai drwy unigrwydd yr ystafelloedd megis llais coll.

Rhaid cyfaddef fod y ci yma nawr rywsut yn clytio peth ar ei unigrwydd chwithig ar ol colli'i wraig.

Mae hi hefyd yn astudiaeth seicolegol o unigrwydd ac o golled.

O'n i'n ffendio byd celfyddyd gain yn uffernol o 'pretentious', a do'n i ddim yn lecio'r unigrwydd o weithio ar dy ben dy hun, ddydd a nos, ar rywbeth sy'n hunan- obsesiynol beth bynnag.

Bwrir ymaith ei unigrwydd hefyd wrth iddo ef a Mona glosio'n gariadus at ei gilydd.

Hithau hefyd wedi darganfod y fan lle y mae'r unigrwydd eithaf.

Ar y wal hon, ger drws unigrwydd, ers cyfnod tiriogaethol Sbaen, a'r imperialwyr a ddaeth wedyn, yn ystod oriau'r nos, yn dawel a dirgel, fel petai'n drosedd, gadawyd plant gan eu rhieni.

Roeddan nhw wedi cael eu chwistrellu hefo pob math o sothach drud at bob dim nes yr oedd yn syndod nad oedd eu crwyn nhw'n gollwng!y misus, Anti Lw mewn unigrwydd urddasol ar y naill ochr, Huw Huws a minnau ar y llall.

Go brin fod yna ddim byd mwy plagus i'r sawl sy'n dioddef o unigrwydd neu'r felan na chlywed eraill yn bloeddio chwerthin, na dim sy'n fwy tebygol o bwysleisio'r anniddigrwydd a'r iselder.

Trafodir pynciau megis unigrwydd, y berthynas rhwng pobl, dyhead unigolyn i gael ei dderbyn, cuddio teimladau a dylanwad y gorffennol ar y presennol.

Sut y priododd y fenyw yma â'r cowmon amharod ymhen deng mis, a thrwy hynny dynnu atgasedd yr holl ardal am eu pen; nes bod rhaid iddyn nhw fyw mewn unigrwydd anghymdeithasol.

Oes ynddo ynysoedd o unigrwydd ac ansicrwydd?

Mae Robert Graves yn dweud pa mor unig y gallwch chi fod os nad ydach chi'n deall yr iaith mewn gwlad dramor, ond, i griw newyddion teledu, mae'r unigrwydd yna'n gallu bod yn gyfforddus unig, achos dydych chi ddim yn uniaethu'ch hunan â'r sefyllfa.

Mae gan Gwyn Thomas gerdd drawiadol yn darlunio carcharor gwleidyddol yn cadw ei bwyll trwy ymgyfeillachu a chrocrotsien yn unigrwydd ei gell.

Mae'n nhw'n dymuno byw'n ddi-enw, yn disgyn i sbeiral anobaith ac, oherwydd ofn unigrwydd ac ansicrwydd yn colli eu hunaniaeth."

Hynny, a'r ofn o fod y tu allan i gylch y chwerthin ac amau, yn f'unigrwydd, mai fi a'i symbylodd.