Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

unir

unir

Gallwn brofi pwysigrwydd yr uned bentrefol trwy gyfeirio at nifer o enghreifftiau e.e.l. Pan unir capeli, gan gynnal gwasanaethau bob yn ail mewn gwahanol bentrefi, tuedda'r mwyafrif o'r gynulleidfa ddod bob amser o'r pentref y cynhelir y cwrdd ynddo e.e.2. Pan fydd plentyn yn cael ei symud - trwy ddewis rhieni - i ysgol pentref arall, tuedda'r plentyn golli cysylltiad cymdeithasol anffurfiol hefyd â gweddill plant y pentre e.e.3. Pan gae'r ysgol, bydd holl blant y pentre'n colli'r ymwybyddiaeth o fod yn griw y pentre wrth fynd i'r ysgol uwchradd ac felly'n colli'r ymwybyddiaeth o berthyn ar y lefel hon.

Unir aelodau'r gymundod hon gan eu hanes - sef y profiad o gydfyw am ddwy neu dair mil o flynyddoedd ar y penrhyn a alwn yn Gymru; a hefyd gan ffactorau eraill sy'n cynnwys eu traddodiadau, a'r iaith Gymraeg yn bwysicaf yn eu plith; gan batrwm diwylliannol unigryw; gan sefydliadau crefyddol, diwylliannol, cymdeithasol (yn arbennig eu tîm rygbi), ac, yn awr eto, gan rai gwleidyddol; a chan yr ymwybyddiaeth o'u Cymreictod.

Nid yw wahaniaeth p'run ai'r tlws ai'r tebyg hyll a unir, mae'r ddwy agwedd mor annigonol â'i gilydd i wneud tegwch â bywyd.