Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

unlle

unlle

Yn unlle!

Ni chanfuasai ddim byd tebyg iddynt yn unlle arall.

Gwastraff amser ydi'u hanner nhw, ond mi fyddaf i'n ateb bob un, ond byth yn cytuno i fynd i unlle heb gael sgwrs ar y ffôn â'r dyn y pen arall yn gyntaf.

Dyma hithau'n pledio am gael aros ychydig ddyddiau yn ychwanegol gan nad oedd ganddi unlle arall i fynd iddo ar y pryd.

Ac ar ôl ei brofiadau yn yr ogof, doedd Geraint ddim am fod mewn unlle caeedig am hir iawn.

Am nad oes gen i unlle arall i fynd.

Doedd dim golwg o grwban y môr arall yn unlle.

Yna brysiodd i'r howld ac i stafell y peiriannau, ond doedd dim golwg o'i gyfaill yn unlle.

"Chefais i mohono fo yn unlle.

Dim defaid yn unlle a'r caeau porthiant fel ynysoedd gwyrddlas wedi eu hamgylchynu gan greigiau miniog fel glasiers mewn môr o binwydd tywyll.

Nid oedd Cochyn y plismon i'w weld yn unlle, a meddyliai Wyn ei fod yn dal i fod ar drywydd y lleidr cathod gan fod Mari Ddu, un arall o gathod y stad dai, wedi diflannu yn ystod y nos.

Wrth gwrs doedd yna ddim creadur byw yn unlle ganol nos, a doedd fawr o bwrpas gweiddi a galw am help." "Pwy ddaeth o hyd iddyn nhw?

Os oes rhywle rwyt ti am fod, gwnan siwr dy fod yn gosod dy olygon i'r cyfeiriad hwnnw a ddim i unlle arall.