Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

unman

unman

Mae'n amheus a gaech chi gynnig fel yna o unman arall.

Ewch chi byth i unman heb enw go dda, wyddoch chi.' Gwenu wnes i, wrth gwrs.

Eto, prin fod lle i ddau ohonom sefyll ochr yn ochr ar gopa Piz Kesch - prin fod lle i ddau yn unman ar hyd ei grib dri chanllath, ychwaith.

Ganol haf, a'r haul yn taro'r dyfroedd, ni welwch las tywyllach, disgleiriach, yn unman, ond heddiw llwydaidd, iasoer ydoedd.

Pan gyrhaeddodd yr Unol Daleithiau ar ddechrau'r Rhyfel Cartref, fe ddywedodd Abraham Lincoln wrtho na wyddai am ddim mwy pwerus na The Times, `heblaw efallai y Mississippi' ac, wrth gyrraedd India i roi sylw i'r Miwtini Mawr, fe drawodd fargen gyda phennaeth y fyddin i gael yr holl wybodaeth a oedd ar gael, ar yr amod na fyddai'n trafod hynny yn unman ond ei lythyrau i'r papur newydd.

Dim un ddimai'n dyfod i mewn o unman, a phawb yn bwyta mwy na'i lwfans wrth fod gartref yn segur.

Nid oedd yr un adyn i'w weld yn unman.

Ar ôl bwyta dyma ddychwelyd at y car i ail-gydio yn y siwrnai adref, ond pan ddaethant at y lle y gadawsant y car, nid oedd yno, ac ar ôl chwilio yn ddyfal trwy'r maes parcio a thrwy'r dref, nid oedd lliw nag arlliw o'r car yn unman.

Meddai, 'Nid oes arlliw deilen yn blaguro yn unman o'r herwydd'.

Ei di i unman heno?'

Ni welodd erioed o'r blaen draethau mor lân, y tywod melyn heb ôl troed yn unman.

Ni allent ddianc i unman am eu bod ar grib bryn isel.

Nid oedd llewyrch o oleuni i'w weld yn unman wedi nos ac amharai hynny ar bresenoldeb yn yr oedfeuon.

rhedodd y tri, gethin yn gyntaf, o amgylch coed a dyfai ar y lan i weld a oedd eu cyfaill yn ddiogel, ond erbyn iddynt ddod i olwg y gangen drachefn nid oedd ffred i 'w weld yn unman unman ffred !

Cofia, saith o'r gloch nos Lun." Wrth sefyll am foment ar ben y lôn wedi dywedyd 'Nos dawch,' clywn fy nghyfaill Williams yn mwmian canu - "'Does unman yn debyg i gartref." Pan gyrhaeddais gyffiniau Siop y Sgwâr ar noson y cinio yr oedd yn amlwg fod ysbryd y Nadolig wedi meddiannu'r lle.

Yn awr ac eilwaith taflem lygad i weld a oedd Gwep Babi o gwmpas ond nid oedd yn y golwg yn unman, er y gwyddem o brofiad nad oedd ymhell iawn ychwaith.

Yn anffodus does unman i'w roi ond tu allan ac felly ni fydd e'n para yn hir er ei fod yn newydd ar y funud.

Williams Parry, fe gredaf fod gennym gerddi unigol sydd gystal yn ol eu math a dim oll a sgrifennodd neb arall yn unman.

Heb hynny, does ganddyn nhw ddim gobaith o gael benthyciad swyddogol o unman.

Nid oedd dim yn unman i awgrymu ystyr neu arwyddocâd i'r cyfuniadau.

Ni bu neb o Lerpwl nac o unman arall yn trafod y bwriad â nhw.

Does gynnon ni unman i droi,' meddai.

Cynnar iawn, wrth gwrs, yw'r gerdd (neu'r ddwy gerdd) yn Llyfr Du Caerfyrddin, ond yr unig ffeithiau pendant yno yw ei bod yn cyfeirio at hanes am Drystan a March (sef yr elfen fwyaf sylfaenol yn yr hanes), a hanes arall am 'ddial Cyheig' - cymeriad na wyddys fawr ddim amdano, ac na ddaw ar gyfyl hanes Trystan mewn unman arall." Yn ôl y ddysgeidiaeth hon, felly, y mae'n rhan o swyddogaeth y llywodraeth i ddefnyddio'r gyllid lywodraethol i reoli galw cyfanredol yn yr economi er mwyn sicrhau lefel cynnyrch gwladol sy'n cyfateb i gyflogaeth lawn.

Does unman yng Nghymru gyfan sydd yn llawnach o gorneli ac o gilfachau diddorol na Bro Gþyr, ac mae hi'n nefoedd i rhyw grwydryn chwilfrydig fel fi.

Ond roedd 'i hen gartre wedi cal 'i rentu yn union ar ol y briodas a doedd unman y galle hi fynd iddo fe.

Er mor agos at fy nghalon yw'r wlad - ac ni fynnwn er dim fyw yn unman arall - byddaf ar brydiau'n teimlo fy maich yn ysgafnhau wrth deithio tua'r dwyrain a chael rhodio daear gysurus Henffordd neu Amwythig.

Iddo ef, doedd unman tebyg y tu allan i ucheldir gorllewinol Mecsico.

Nid oedd yr enw 'Crewe' i'w weled yn unman rhag ofn i Hitler, mae'n debyg, ddod allan o drên a gweld ble'r oedd ac adnabod y wlad!

Edrychwch draw ac fe welwch lle y rhuthrodd ysgrifbin beiddgar y gŵr hunan-hyderus i recordio i'r oesau ei fawredd ei hun, na recordiwyd mohono yn unman arall.

Gallent weld bryniau isel yn y pellter ond doedd dim arwydd o fywyd yn unman, ar wahân i hebog yn cylchu'r awyr ymhell uwch eu pennau.

Oherwydd ei ffurf cysylltid ambare/ l a pharasôl â'r haul, a daethpwyd i gredu ei bod yn anlwcus i'w hagor yn unman ond ym mhresenoldeb yr haul, hynny yw, y tu allan i'r ty ac nid y tu mewn.

'Pwy sydd yna?' gwaeddodd eto, yn uwch, ond ni ddaeth ateb o unman.

Doedd dim swn siarad i'w glywed yn unman, dim smic o SWll yn unmall.

Oedodd pawb ar gwr y wîg gan sbecian rhwng y dail a'r brwgaij ond doedd dim golwg o'r un enaid byw yn unman.

Rwyt yn llwyddo i ddal dy afael ac yn y golau gwan gweli nad yw'r bleiddiaid i'w gweld yn unman.

Pan oeddwn yn hel y Flodeugerdd methais innauchael 'Seren Heddwch' yn unman ond yn 'Caniadau Cymru'.

Nid oes unman yng Nghymru ymhellach na chan milltir oddi wrth ffin yr anferthrwydd hwn.

Nid oedd yr un wên yn unman.

Ni fedrwch fynd i unman yn y cerbyd nes i'r ffordd sychu.

Na, doedd dim golwg o long yn unman.

Nid yw hyn yn fwy trawiadol yn unman nag ar yr ochr ddwyreiniol, yn Emiriaeth Fujairah- yr unig Emiriaeth sydd ddim ar y Gwlff Arabaidd.

Doedd dim sôn amdano yn unman, Mi gerddais i lawr y lôn gefn yn galw arno fo gan ddisgwyl ei weld yn dod dros ben y wal o rywle, ond doedd dim golwg ohono fo.