Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

uno

uno

Erbyn heddiw gwelir fel y gellir uno'r ddau symudiad - y canoli ar lefel Ewrop, a'r datganoli ar lefel Cymru - i greu rhyw fath o synthesis ac undod: Cymru o fewn y Gymuned.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf daeth rheidrwydd i uno rhai gofalaethau, ac erbyn hyn aeth y nifer i lawr i bump yn yr Henaduriaeth, gydag un ofalaeth gyd-enwadol o dan ofal y Parchedig WJ Edwards, Llanuwchllyn.

Beth wnanhw efo'r holl flaenoriaid - sylw bachog aelod ym Mhendref, oedd o'r farn mai uno'r capeli i greu un capel i bawb fydd yr ateg yn y diwedd.

Y mae ymgyrch y Gymdeithas yn erbyn gorthrwm Saesneg y llysoedd cyfraith a holl gyndynrwydd y barnwyr a'r plismyn i gadw braint a rhagoriaeth iaith y Ddeddf Uno yn deffro anesmwythyd ar feinciau ynadon.

Y mae'n wir nad oedd y teulu'n absennol o'r gymdeithas, ond yr oedd yn israel ai ffyniant bywyd ar barodrwydd dynion i uno â'i gilydd; dyna paham y rhoddid lle mor bwysig i deuluoedd a pherthynas gwaed.

Mae'n brofiad sy'n uno pawb.

Cydsyniais yn eiddgar, gan weld cyfle i grisialu fy syniadau fy hun am fanteision ac anfanteision uno dwy ran y wlad, ac i fynegi sut rydw i - fel brodor o'r hyn a arferai fod yn Ddwyrain yr Almaen - yn teimlo erbyn hyn.

Bydd hyn yn golygu na fydd y dosbarth derbyn yn llai na 30 o ddisgyblion ac yn gorfodi i ddau ddosbarth uno'n un gan ddadwneud yr hyn oedd amcanion arian y Cynulliad.

Os ydi'r Capeli a'r Eglwysi mewn lle mawr fel Bangor neu Aberystwyth, er enghraifft, yn penderfynu uno, a bod y capeli Pentecostal, Efengylaidd, yn Saesneg eu hiaith, beth fyddech chi'n dweud wrth y Cymry Cymraeg?

Nid oes gan rai beirdd (a chofier, nid rhai i'w bychanu na'u hanwybyddu ydynt o angenrheidrwydd) mo'r gallu i uno'r annhebyg.

Cafwyd Cyfarfod Gweddi Dechrau'r Flwyddyn ym Methel ac yma eto roedd yr holl Eglwysi wedi uno.

Synied am y genedl yn nhermau'r iaith Gymraeg y mae Sion Dafydd Rhys yma: y mae iaith a chenedl yn gyfystyr iddo, ac y mae'n cydnabod bod bygythiad gwaelodol i'w bodolaeth yn y math o feddylfryd unoliaethol a ymgorfforir, er enghraifft, yn y Ddeddf Uno.

Ymateg i Uno'r Capeli Bu ymateb diddorol i'r erthygl gan Gwenynen am uno'r capeli yn rhifyn mis Mawrth.

Y wir farddoniaeth sy'n sicrhau ymateb ysgytiol gyffrous yw honno pan yw'r cydio trosiadol yn uno'r annhebyg, y gwrthwynebus a'r ymddangosiadol anghydnaws - ac os caf ddyfynnu, heb ennyn chwerwedd rhai beirniaid, eiriau Coleridge, ...

Wedi cyfnod o dros drigain mlynedd, penderfynwyd, oherwydd y lleihad yn rhif yr aelodau a nifer y plant, yn ogystal â bod cyfleusterau teithio wedi newid, mai priodol fyddai ail-uno'r ddwy Ysgol Sul.

Cyhuddir cenedlaetholwyr yn fynych o ddymuno rhannu yn hytrach nag uno, gan bobl a ddywed, "Angen y byd yw undeb, nid mwy o raniadau%.

Mae'r hanes am Gwm Rhondda yn fwy calonogol o lawer er y buwyd yn hir yn disgwyl ac yn gweithio dros ysgolion Cymraeg uno, ysywaeth.

Mae'r broblem o Gapeli yn uno yn broblem fawr iawn.

Mae'r genhedlaeth hon yn obaith i uno'r gwledydd Arabaidd.

Mae'r agwedd meddwl a greodd y Deddfau Uno'n dal yn hynod fyw.

Ystyr 'cymod' yw'r uno sy'n digwydd rhwng dwyblaid a fu gynt mewn gelyniaeth â'i gilydd.

Yng ngallu grymus ei chof yr oedd Sarah Owen yn ymgysylltu â'r werin Gymraeg cyn i honno fynd i ysgolion Griffith Jones, Llanddowror, ac yng nghyfoeth lleferydd ei thafod, yr oedd yn uno treftadaeth hen ddiwylliant Twm o'r Nant â diwyllinat newydd Charles o'r Bala.

Dyna felly lwyddo o'r diwedd y polisi a osodwyd yn nod i Lywodraeth Loegr yng Nghymru yn y mesur a elwir yn Ddeddf Uno Cymru a Lloegr yn y flwyddyn 1536.

Gwaith y gwyddonydd yw adeiladu patrwm i uno'r rhain.

Dywedwyd yn union hynny yn y Ddeddf Uno, yn y Llyfrau Gleision, a throeon lawer.

Erbyn y ddeunawfed ganrif ceir digon o dystiolaeth i effeithiau'r Ddeddf Uno ar yr iaith.

Uno â Christ

Arwynebol yw'r gwahanu rhwng cenedlaetholdebau gwleidyddol a diwylliannol, a nai%f dros ben yw'r cynllun 'uno gwladwriaethau' ar batrwm 'delfrydol' yr Alban a Lloegr.

Mae'r ffaith bod y carfannau yma wedi uno - er eu bod fel arfer yng ngyddfau ei gilydd - a'u bod wedi cyhoeddi ymateb ar y cyd, oriau'n unig ar ôl i aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod yn dosbarthu taflenni i staff y Cyngor ddydd Iau diwethaf yn tanlinellu pa mor sensitif yw'r mater yma.

Yn hanesyddol ac yn gwbl ddigynsail, mae arweinwyr y tair carfan wleidyddol ar Gyngor Sir Gâr wedi uno trwy anfon llythyr ar y cyd at Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn condemnio ein beirniadaeth ar Brad Roynon, prif weithredwr y cyngor, ac yn pledio am werthfawrogiad o bolisi iaith y Cyngor.

Bu gwrthsafiad mawr yn erbyn y bwriad yno, a'r gweriniaethwyr a'r Blaid Seneddol Wyddelig yn uno â'i gilydd, ar y tir fod Iwerddon yn wlad wahanol i Loegr ac nad oedd yn iawn gorfodi un wlad i ymladd dros wlad arall.

Gyda'r Ddeddf Uno, cysylltwyd Gwynllŵg a Gwent i ffurfio sir Fynwy, a Gŵyr a Morgannwg i ffurfio'r sir honno.

Yn hanesyddol ac yn gwbl ddigynsail, mae arweinwyr y dair carfan wleidyddol ar Gyngor Sir Gâr wedi uno trwy ddanfon llythyr ar y cyd at Gymdeithas yr Iaith yn condemnio ein beirniadaeth ar Brad Roynon (Prif Weithredwr y Cyngor), ac yn pledio am werthfawrogiad o bolisi iaith y Cyngor.

Mae'r ffaith bod y carfanau yma wedi uno - er eu bod fel arfer yng ngyddfau ei gilydd - a'u bod wedi cyhoeddi ymateb ar y cyd, oriau'n unig ar ôl i aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod yn dosbarthu taflenni i staff y cyngor yn tanlinellu pa mor sensitif yw'r mater yma.

Y cam nesaf oedd uno Peniel, Saron, a Phrion yn un ofalaeth gyda Llanrhaeadr a'r Glyn dan ofal cydwybodol y Parchedig Arthur Jones.

Ac o'r profiad hwn, o'r uno ysbrydol â Christ, yr oedd gorfoledd ac egni'n tarddu.

Ond, wrth gwrs, yn wyneb gofynion y Ddeddf Uno, Saesneg fyddai iaith llys, marchnad, cyfraith a gweinyddiad sifil.

Nid yw egwyddor y Ddeddf Uno wedi llaesu dim, er bod newid o bwys yn agwedd meddwl y Llywodraeth.

Gellir yn deg ddadlau fod canlyniadau'r ddeddf hon wedi bod yn llawn mor bwysig i'r iaith Gymraeg â chanlyniadau'r Ddeddf Uno yn y dyfodol.

Drwy uno Llywodraethau.

Galwodd Awstin yr esgobion ynghyd i gynhadledd i weld a oedd modd uno'r eglwysi Celtaidd a'r eglwysi yr oedd ef ei hun yn eu sefydlu.

Pe cymerasai'r cyfan ac "uno% Denmarc oll â'r Almaen, fel yr unwyd Cymru a Lloegr, a fuasai'r Daniaid ar eu helw?

Ei hiraeth am weld sylweddoli'r uno hwn ar raddfa fawr sy'n ysbrydoli ei benillion prydferth,

Ni fynnwn honni am eiliad fod Morgan Llwyd yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd o leiaf, yr oedd ei reddfau llenyddol yn ddigon cadarn i sicrhau fod pob ystyriaeth ramadegol yn cyd-uno i ddiogelu'r effaith a'r dôn y mynnai eu consurio.

Mae'r camau diweddaraf hyn wedi uno cenedlaetholwyr o bob math gyda chynrychiolwyr o bob plaid wleidyddol, ynghyd â mudiadau eraill, yn cynnal protest enfawr yn Donostia yn erbyn y penderfyniad i gau'r papur newydd.

Pwysleisiodd uno achau ac uno dwy ystad.

Sbardunwyd y mudiad, yn y lle cyntaf, gan ymdrechion y saithdegau cynnar i uno'r arholiadau TAU â'r rhai Safon "O" TAG.