Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

urddas

urddas

Nid yw'r Methodistiaid i "gablu urddas" ond i ymddwyn, mewn gair a gweithred, yn ffyddlon ddiffuant i'r llywodraeth gan anrhydeddu'r Brenin a'r sawl sydd mewn awdurdod oddi tano.

Fel gŵr cadarn ei argyhoeddiad gafaelai Jacob ym mhopeth gyda'i holl egni a rhoi o'i orau glas er sicrhau urddas a graen i'w gyfraniad.

Mae'n dilyn mai er mwyn dyn y mae pob sefydliad yn bod, ac o gwmpas urddas dynol y dylid adeiladu pob trefn.

Fel gwraig i fanijer pen-pwll Tyn-y-bedw roedd ganddi'r statws angenrheidiol i gael y fraint o arllwys te wrth un o'r byrddau adeg unrhyw barti a gynhelid yn y festri, swydd o urddas i'r dewisol o blith y chwiorydd.

'Pa ryfedd', meddai Wiliam Llŷn am ddisgynyddiaeth hynod un o'i noddwyr, 'fod y profiad, ag urddas Duw, yn gwreiddio stad'.

Doedd anrhydedd ac urddas yn cyfrif dim a diflannodd pob llawenydd o'u bywydau.

Dyn cymesur a golygus oedd Daniel, ac ym mha le bynnag y gwelid ef, yn y gwaith tun neu yn y Sedd Fawr, perthynai rhyw urddas iddo, a rhoddai argraff dda ar bawb a gyfarfyddai ag ef.

Lleihau urddas dyn a thlodi ei ddynoliaeth a wna'r agwedd hon at gymundodau dynol, ac i'r graddau y gwneir hyn y mae'n wrth-Gristnogol.

Ond yn ymarferol golygai'r darpariadau hyn fod urddas swyddogol wedi'i roi ar grefydda yn Gymraeg.

Ni hawliai Iesu, y mae'n ddiogel gennyf, unrhyw swydd neu deitl o urddas gwleidyddol neu eschatolegol iddo ei hun, ond y mae'n sicr fod llawer yn ei oes yn meddwl amdano fel un a gyflawnai'r addewid am y Meseia, fel un a fyddai'n rhyddhau ac adfer Israel.

Trwy wneud hynny cyll ei chartref, ond ceidw urddas ei llinach.

Y mae'n ddi-os i'r fersiwn Saesneg ennill mewn urddas trwy'r diwygio hwn, ond colled fu dileu bywiogrwydd a naturioldeb Saesneg Tyndale.

Gwyddai'r gwyr hyn beth oedd pregethu i dyrfaoedd enfawr a dengys hynny un o nodweddion amlycaf eu dawn - eu gallu i gyfareddu gwerin gymharol ddiaddysg a hynny heb lastwreiddio na darostwng urddas y genadwri.

A thrwy gydol y flwyddyn 1971 bu erthyglau nerthol y misolyn Barn yn gefn mawr i'r frwydr hon gan Gymdeithas yr Iaith dros urddas dyn yng Nghymru.

Ond go brin ei fod yn ychwanegu rhyw lawer at hunan-barch nac urddas y sawl syn gwisgor fath addurn ychwaith.

Ond nid urddas traddodiad yn unig sy'n eu poeni.

O'n cwmpas ar y tarmac, roedd hen awyrennau Aeroflot fel morfilod ar draeth ac ambell fodel propeliog yn dadfeilio'n ddi-urddas o dan yr awyr lwydaidd.

Deilliai ei awdurdod cynhenid o'r llys, gwraidd pob 'urddas a maeth'.

Ond un o'r cysuron mwyaf i mi oedd fel y dysgodd ganu Hen Wlad Fy Nhadau mor ddiffwdan (gyda holl urddas pysgodyn aur mud, marweddog) ar amrantiad (drwy osmosis) yn y ddywededig gynhadledd ar lan hen Afon Ddyfrdwy ddofn, yng nghwmni yr anwylaf gwnewch-i- mi-fedd-mewn-unig-fan Wyn.

Ac mae hefyd yn barod i golli adeg etholiad heb golli urddas, yn wahanol i Aerwennydd Francis a Robert Pugh, y dialydd.

Yn y sefyllfa hon gwelir bwysiced yw diwylliant ac iaith Cymru fel gwrthglawdd i amddiffyn dynoliaeth ac urddas y bobl.

Mae ganddo hyder un a fagwyd ym mri ac urddas dau sefydliad arall" - yr unig un yn Siambr y Cynulliad i brofi rhin ac awyrgylch y ddau dy Llundeinaidd.

Tymor neu ddau arall a bydd yr holl fawredd wedi mynd a dim ond urddas angau yn aros yn y sgerbydau gwynion.

Mae tlodi wedi lladd pob hunan-barch ac urddas yn y dalaith hon.

a'r urddas a ddarperir trwy gynnig stafelloedd unigol a

b) ategu urddas ac arwyddocâd dyn wedi ei greu ar ddelw Duw; ac

Y mae'r Cristion yn rhwym o barchu a chefnogi ymdrech dyn i gadw neu sicrhau ei hunaniaeth a'i urddas gan i Grist roi'r fath werth ar y person dynol.

Yr ydym fel cenedl wedi rhoi, ac yn parhau i roi, gormod o urddas ar feirdd ar draul awduron .

'Mawr fu'ch gras a'ch urddas chwi', meddai ymhellach,' ....

Ni thâl ach ddiledryw heb ddoniau cynhenid i'w hanrhydeddu, na theulu heb urddas y bywyd gwâr grasusol i'w gynnal, sef y gras cynhenid (grazia) a amlygid gan Castiglione yn ei Il Cortegiano.

Iawn yw i arglwydd ennill clod a bod yn batrwm i'w farchogion, oherwydd nid gweithgarwch 'diffrwyth' mohono bellach gan ei fod yn foddion cyfoethogi 'ei lys a'i gydymddeithon a'i wyrda o'r meirch gorau ar arfau gorau ac o'r eurdlysau arbenicaf a gorau'.' Trwy'r adran hon gwelir yr awdur, ac mae'n debyg ei gynulleidfa a'i noddwr, yn ymhyfrydu ym mhasiant y llys, gloywder lliwiau a helaethrwydd anrhegion a gwleddoedd ac yn urddas gosgorddion 'yn wympaf nifer a welas neb erioed', fel na ellir peidio â sylwi ar ei ddiddordeb byw yn ystyr arglwyddiaeth a'r mynegiant gweladwy ohoni.

Tybia mai'r 'unig ffordd' i roi 'urddas ar lafur .

mewn ffyniant fel meddiant mawr, bo gras ag urddas ....' .

Yn y cyfamser bu'n frenin llwyfan yr Eisteddfod, a chafodd gyfle o flwyddyn i flwyddyn i gadw'n gyson o flaen llygaid y beirdd bwysigrwydd pethau cyntaf eu crefft - urddas arddull, glendid ymadrodd, a phurdeb iaith.

Wrth gwrs, y mae yn y llywodraeth wyr diwylliedig sy'n eiddigeddus tros urddas eu traddodiad.

ac arddel teg urddas' a'r fangre lle 'y rhed gryn anrhydedd; gras glân'; a dyrchafwyd y penteulu yntau'n ŵr o 'lendid a ffyddlondeb'.

Gweld urddas a balchder rhai o'r cenedlaetholwyr yn wyneb caledi ail-enedigaeth gwlad; sylwi ar siacedi lledr a bysedd modrwyog cyfoethogion y farchnad ddu; clywed recordiau Americanaidd yn dôn gron ddiddiwedd ar radio gyrrwr ein car.

Smaliwch mai ceisio astudio sylfeini'r t yr oeddech, a chodwch â chymaint o urddas ag sydd bosibl dan yr amgylchiadau.

Rhaid cofio mai mab i chwarelwr ydoedd, wedi ei fagu ymysg teuluoedd chwarelwyr ac yn gwybod o brofiad am erwinder y llafurio'n y graig ac am gyndynrwydd yr ymddrech ar yr aelwyd i fyw gyda thipyn o urddas a hunan-barch.

Pa le y cafwyd urddas dyn heddiw?

"Dychymmygion penboeth a gorwyllt" oeddynt yn nhyb golygydd yr Haul, "rhuthriadau esgeler", "cableddau didor a ddywedir yn erbyn urddas".

Eu hiaith a'u diwylliant oedd prif amddiffyniad urddas a dynoliaeth y Cymry yn wyneb goresgyniad diwydiannaeth a chyfalafiaeth ysgeler y ganrif ddiwethaf, ond polisi anwar y Llywodraeth oedd eu diddyfnu oddi wrth eu diwylliant a'u diwreiddio o'u hanes fel y chwelid y gymdeithas genedlaethol.

Fel yn achos ei brif arwr, Keith Andrew o Swydd Northampton, cyflawnai ei waith â rhyw urddas tawel, heb geisio gwneud tro sâl neb.

Ym meddwl John Davies nid oedd amheuaeth o gwbl ynglyn ag "urddas diamheuol" y Gymraeg ac y mae Ceri Davies yn fawr ei edmygedd nid yn unig o'i lafur oes "yn ymboeni am urddas y Gymraeg' ond hefyd o'i feistrolaeth "ryfeddol o lwyr" ar adnoddau'r Gymraeg, ei hidiomau a'i geirfa.

Ar ddechrau Pwyll gellid dweud bod yr awdur am brofi mai gŵr anrhydeddus o gymeriad cadarn yw tad yr arwr, a chanddo urddas a phwysigrwydd arbennig trwy'r berthynas agos sydd rhyngddo a brenin Annwfn.

Nid oedd ef ei hun yn un i sefyll ar ei urddas.

Rwy'n teimlo'n anghysurus oherwydd yr israddoldeb a'r diffyg urddas.

O'r gwraidd hwnnw y tyfasai urddas nerth a chyfiawnder dihysbydd a'r gallu i drin a thrafod dynion yn eu cynefin.

Erys bri ac urddas ynghlwm wrrth enw Arthur o hyd, ac y mae'n werth gan y bucheddwr gyfeirio ato fel un a roes ei nawdd i'r eglwys leol.