EU HIAITH Iaith go od ydi'r iaith Urmyceg.
Hefyd mi gewch yrru eich plant i Ysgolion Urmyceg yn fengach mewn rhai ardaloedd ac ymuno (os mai merch yda chi) efo Sect 'Glasiad y Dydd'.
Pan gafwyd hyd i lot o lo a haearn ac ati mewn rhannau o Urmyc fe ddaeth yna filoedd o bobl ddieithr i mewn ac fe stopiwyd siarad Urmyceg cyn hir yn y lleoedd hynny achos iaith pobol dlawd oedd hi.
Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn siarad Urmyceg ac yn yn gweithio mewn colegau ac ysgolion a'r capeli drafftiog rheini y soniwyd amdanynt.
Mae'r bobl gyffredin yn lecio'r 'Sect Fach', (fel y galwyd hi ar un adeg), yn well arbyn hyn achos bod rhyw ddarlithwyr coleg ers tro byd, wedi dechrau siarad Urmyceg yn fler a di-hid 'run fath a phawb arall, yn lle 'run fath a llyfr neu bobl capermwyr Ieuanc Ynys Mon ddechrau mis dwytha.
Ond dydi'r rhai sy'n siarad Urmyceg ddim yn mynd i'r rheini rhyw lawer iawn bellach.
Mae llawer o bobl Arnom a Nom yn dal i siarad hen hen iaith Urmyceg.
Credant bod eu hen hen dywysogion wedi bod yn ymladd cenedl fawr y Noseas er mwyn cadw'r iaith Urmyceg yn fyw.