Er iddo wadu'r cydraddoldeb sydd yn ymhlyg yn nysgeidiaeth Crist cam dybryd a gafodd y meddyliwr gonest hwn pan drodd y Natsiaid ei gred yn yr Uwchddyn i'w melin afiach eu hunain: yn y bon, ei orchfygu ei hun yw camp Uwchddyn Nietzsche a byw'n beryglus yn y meddwl, gan gefnu ar deganau gwael y dorf.