Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

uwchlaw

uwchlaw

Mewn gair, eilunaddoli yw dwyfoli unrhyw agwedd ar y cread ac nid yw pobl fodern uwchlaw gwneud yr un peth.

Ond uwchlaw popeth, cyfle i'n cyflwyno ein hunain o'r newydd i Dduw.

Aeth Algis Geniusas â ni i fynwent uwchlaw'r hen ddinas yn Vilnius, heibio i'r tai ble'r oedd cŵn bach y drefn gomiwnyddol wedi arfer byw, i fyny y tu hwnt i'r fynwent swyddogol lle'r oedd pwysigion y sustem Sofietaidd yn gorwedd dan eu marmor trwm, draw i fryncyn bychan lle'r oedd cyrff y gwladgarwyr i gyd.

Dewch draw i weld." Roedd cylch o risgl wedi ei wasgu a'i dorri rhyw fetr uwchlaw'r ddaear ar foncyffion y ddwy goeden.

A dyna Robert Hughes Uwchlaw'r Ffynnon, a anturiodd ­ Lundain i borthmona, ond a ddaeth adref yn ddyn newydd, wedi'i danio gan yr Efengyl.

uwchlaw'r mor) o Durrboden ger Davos i S-chanf (ynganer tsi-tsianff) yr haf blaenorol, fodd bynnag.

(gan fod cyflog Lleifior 'gryn dipyn uwchlaw telerau'r undeb (t.

Yma mae'r adran sy'n union uwchlaw'r cydlif wedi ei throi'n gamlas ac wedi'i chyfyngu gan argloddiau gwneuthuredig.

Ar ddechrau'r saithdegau roedd yna duedd i feriniaid llenyddol Gorllewin yr Almaen ynghynt wawdio'r awduron hynny a oedd gynt wedi mynnu mai gwleidydda uniongyrchol oedd yn bwysig uwchlaw dim, ac a oedd nawr yn dychwelyd at lenydda wedi gweld methiant eu dyheadau.

Gorwedd y maes uwchlaw'r Wyddgrug ar y ffordd i Wernaffild, a maes hyfryd yw hefyd, eang a gwastad, ac yn ddelfrydol ar gyfer 'Steddfod Bro Delyn.

Casglwyd cannoedd o bunnau, digon i gadw Sarah Owen a'i chydanffodusion uwchlaw angen, ond torrodd y banc yr ymddiriedwyd y gronfa i'w ofal.

A minnau'n meddwl fy mod i uwchlaw castiau dosbarth canol o'r fath, cefais fy hun un p'nawn ar Faes y Brifwyl, yn gwthio merched parchus mewn cotiau plastig yn ddi-seremoni o'm ffordd er mwyn i mi gyrraedd yn gyntaf at y cardiau 'Dolig yn un o'r pebyll elusennol.

Tra oeddynt hwy'n gweithio ym Môr y Canoldir sefydlasant safonau arolwg a chloddio a oedd yn eu gosod hwy uwchlaw gweithwyr cynharach.

Arfordir rhyfeddol o brydferth - rhes o gilfachau'n ymwthio i ystlys y tir sych, a'r ffordd yn ymdroelli gannoedd o droedfeddi uwchlaw iddynt.

Teimlodd Llio ei chalon yn peidio 'a churo, ei bysedd a'i thraed yn ddiffrwyth a hithau'n ysgafn ei chorff ac yn teimlo ei bod yn codi uwchlaw y gwely.

Merch yw hi sydd yn ei hanfod yn debyg i Mary Williams Blaenycwm, a chyfnither Morgan yn Y Tri Brawd, sef un sydd wedi'i chodi uwchlaw amgylchiadau'r teulu gwerinol yn rhinwedd addysg Saesneg mewn ysgol breswyl.

Bydd yr atomau Nd yn gollwng goleuni laser drwy ddisgyn i lefel egni ychydig uwchlaw'r gwreiddiol, yna'n disgyn ar unwaith i'r lefel wreiddiol heb ollwng goleuni.

Byddai'n traddodi'r fendith yn Gymraeg o dro i dro ar ddiwedd gwasanaeth; ond câi drafferth i ynganu'r gair 'deall', a'r hyn a glywai'r gynulleidfa fyddai nid 'Tangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall' ond 'Tangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob dial'!

Trigent mewn cutiau ar y bryniau, uwchlaw coed y dyffryn y claddent eu meirw dan gromlechi.

Tseineaid yn prysuro rhwng siopau bychain Chatham Road North, yn diflannu i wyll y mân weithdai sy'n agored i'r stryd, neu'n hamddena yn y parc bychan coediog sy'n gorwedd yng nghesail cilgant stryd Wo Chung ac yng nghysgod y pileri sy'n cynnal heol Fat Kong uwchlaw.

Ymddangosai Alun Michael yn ddiffuant o ddiolchgar iddi am gyfraniad amserol a rhoddodd sicrwydd fod pob hawl i aelodau'r Cynulliad berthyn i'r Seiri Rhyddion ond na allent ddisgwyl bod uwchlaw arolwg.

Rhythais ar grib ogledd-ddwyreiniol ddu, hirfain, ddidrugaredd Piz averstancla a chofio llinellau olaf y gerdd a ganodd Armon Planta o Sent, uwchlaw Scuol, ar ol ei dringo gydai fab: I lawr yn y cwm a chytgord yn anodd oni fyddwn ni'n troi at hyn mewn atgof (in algordanzas) Bardd, dringwr, hanesydd, radical, athro ac ymladdwr dros ei iaith oedd Armon Planta.

Maent i gyd wedi rhoi llythyren y traddodiad uwchlaw'r ysbryd a chymryd delfryd yn lle realiti cyflawn.

Ac mae para gyda theulu a ffrindiau da yn fraint uwchlaw dirnadaeth dyn...

Mae'r enw hwn yn sicr yn cyd-fynd â ffurf ddaearyddol Dyffryn Cefni, yn enwedig felly'r rhan ohono sydd uwchlaw Llangefni.

Fe ddichon nad 'ailddwyfoli' yw'r gair mwyaf priodol i ddisgrifio'r dehongliad newydd ac amwys a gynigir yn y ddau bennill a ddyfynnwyd: erys Iesu'n ddyn, eithr dyn â photensial ynddo i 'hawlio rhyddid enaid o'r cnawd a'i ddyrys wead', i godi uwchlaw 'caethiwed drom' ystyriaethau bydol.

Mae un pwll uwchlaw'r Pandy sy'n dwyn yr enw rhyfedd Llyn Sbwnyn.

Y mae rhan arall y plwyf - y deheubarth - uwchlaw hen Glawdd y Mynydd lle gorwedd clwstwr o dyddynnod bach Trefenter a'u dechreuad o dai unnos a godwyd yn y ddeunawfed ganrif gan y sgwatwyr crwydrol.