Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

vilnius

vilnius

Yn awr, roedd hi'n cynrychioli etholaeth yn y wlad i'r Gorllewin o Vilnius, yn aelod annibynnol, asgell dde gyda llun John Major ar ei wal.

Aeth Algis Geniusas â ni i fynwent uwchlaw'r hen ddinas yn Vilnius, heibio i'r tai ble'r oedd cŵn bach y drefn gomiwnyddol wedi arfer byw, i fyny y tu hwnt i'r fynwent swyddogol lle'r oedd pwysigion y sustem Sofietaidd yn gorwedd dan eu marmor trwm, draw i fryncyn bychan lle'r oedd cyrff y gwladgarwyr i gyd.

Fe ddechreuodd y dryswch o'r eiliadau cynta', pan gliriodd y cymylau uwch Vilnius ac y trawodd yr awyren DanAir y tarmac ym maes awyr digysur y dref.

Prif siop Vilnius, honglaid hyll o adeilad, yn debycach i warws na dim arall - warws heb fawr o nwyddau.

Ychydig filltiroedd i'r gogledd-ddwyrain o Vilnius, medden nhw, y mae canol daearyddol Ewrop; er bod gorwelion y llygad yr un peth, mae gwybodaeth fel yna yn newid ffrâm y meddwl.