Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

vita

vita

Llygoden yn unig a geir yn y Vita, ond fe ddeil Cadog y creadur bach a rhwyma hi wrth ei throed.

Mae'n edrych ar y gogledd fel rhanbarth twyllodrus, barbaraidd, ac yn y Vita Cadoci adroddir hanes goruchafiaeth Cadog ar Faelgwn a'i fab, Rhun, a ddaethai i Went i ysbeilio ac i ddiffeithio'r wlad.

Ym Mabinogi Manawydan mae crefftwyr eiddigeddus yn bwriadu lladd Manawydan a Phryderi ac yn y Vita Cadoci fe geir hanes adeiladydd o Wyddel y rhagorai ei waith ar waith y crefftwyr eraill a gyflogid gan Gadog gymaint nes iddynt ei ladd.

Yn y Vita Cadoci fe adroddir enfances y sant a diddorol yw sylwi bod anifail, sef buwch, yn cael ei gipio oddi wrth y dyn a fydd yn athro i Gadog y nos y genir y bachgen, amgylchiadau sy'n peri inni feddwl ychydig am Bryderi a Theyrnon.

Yn êl y Vita Cadoci, fe ddychwel Cadog o Iwerddon ac ê i Frycheiniog i astudio dan gyfarwyddyd ysgolhaig adnabyddus.