Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wacter

wacter

Pan ymadawodd y Rhufeiniaid gadawsant wacter ac ansicrwydd o'u hôl, a chyn pen dim llamodd y Pictiaid rhyfelgar yn baent i gyd dros Fur Hadrian a dechrau difrodi'r wlad.

Dadleuai DJ Davies, yn wir, fod yr ardaloedd Seisnig yn barotach i dderbyn neges y Blaid na'r ardaloedd Cymraeg, oblegid yr ymdeimlad o wacter a geid ynddynt trwy golli'r iaith, a bod ffyniant yr iaith yn yr ardaloedd Cymraeg yn fagl ac yn rhwystr i'w datblygiad politicaidd i gyfeiriad cenedlaethol.

'Roedd gan y gof ddarn o gast wedi ei lunio ar lun yr olwyn ac yn ei ganol wacter lle yr âi hanner bwlyn yr olwyn i lawr iddo, yna 'roedd yr olwyn yn aros yn gadarn arno wrth osod y cant haearn am yr olwyn.

Yr oedd teimlad rhyfedd wedi dod trosom, rhyw fath o wacter, y llenni i lawr ar y ffenestri, Mama a'i llygaid yn goch, a phawb yn mynd o gwmpas eu pethau yn ddistaw.