Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wael

wael

Bu+m yn bur wael a chollais y plentyn yn wythnos oed.

Dull arall oedd torri croen braich person a throsglwyddo iddo gynnwys polleth claf nad oedd yn ddifrifol wael.

Aeth fy chwaer i fyw i Fethesda ar ôl priodi, a'r Nadolig cyntaf i ni fod hebddi cafodd Mam y ffliw neu rywbeth, bu'n wael iawn, a gorfu iddi aros yn ei gwely.

Oddiwrth y meirw cododd ef, Ac esgyn wnaeth i nef y nef, Er achub rhai mor wael â ni, A'n codi i'r uchelder fry.

Gan ei bod yn berfedd nos neu yn oriau mân y bore, ni wyddwn yn iawn beth i'w wneud â'r jar te, roedd golwg mor wael arno, ond o ran parch fe gedwais gwmpeini i'r trwyth.

'Sgen yr hen gre'dures ddim gūr ac ma'i chi bach hi'n wael.....

Pryddest wael ydyw.

Efallai ei fod wedi ei daro'n wael ac wedi ei gymryd i'r ysbyty, meddyliodd wrth gamu i mewn i'r ystafell.

'Proffwyd tywydd go wael wyt ti, Iestyn,' meddai.

Dechreuodd pethau'n wael i'r Drenewydd wrth i Mark Williams roi'r bêl i'w rwyd ei hun o groesiad Glyndwr Hughes wedi ugain munud.

Cystadleuaeth hynod o wael.

Yn ddi-os, creodd Asquith argraff wael ar yr undebwyr, fel pe b;,i rl eu bvgwth.

Doedd dim diben dweud na allai'r un joci ar wyneb daear ofalu bod pob ceffyl yn neidio'n berffaith bob tro ac yn enwedig hen gythraul croes a oedd wedi ei ddysgu'n wael.

Gwobrwywyd arwrgerdd affwysol o wael gan gystadleuydd mynych ei wobrau yn adran farddoniaeth yr Eisteddfod yn y cyfnod.

(Yno, fel y digwyddodd pethau, ar ymweliad â chartref Wil, fy mrawd, y cafodd Mam ei tharo'n wael.) Pan gyrhaeddais, roedd fy chwiorydd a'm brodyr yn y llofft o gylch y gwely, a Mam, druan, yn anymwybodol.

Yn ystod y gwyliau fe gymerwyd y famgu yn wael ac fe brynwyd aspirin iddi a moddion arall ond ni fuwyd at y doctor lleol o gwbl, ac yn sydyn rhyw noswaith gwaethygodd ei chyflwr yn ddisymwth, a bu farw.

'Roedd yn rhy wael i ofalu am y seremoniau.

Beth os oedd yn gorwedd yn wael yn ei wely?

Yr oedd y Doctor ar fin mynd i'w wely a i ofyniad oedd, "Ydi o'n wael iawn?"

Ar ôl ymbalfalu am y switsh lectrig mewn ystafell anghyfarwydd, gwelais ei bod yn hanner awr wedi dau yn y bore a meddyliais fod rhywun yn siwr o fod yn chwarae tric go wael arnaf.

Daw Mona a'r newydd yng nghanol yr olygfa heintus hon fod Eli wedi ei daro'n wael - ond addawa'r creadur wneud ei orau glas i ddal 'mlaen cyhyd ag y gall, er mwyn Tref!

Er bod ei dad yn wael iawn, dechreuodd wella'n araf ymhen diwrnod neu ddau.

Adrannau gwybodaeth y gwahanol lywodraethau sy'n eu cyflogi nhw a'u rôl yw gwneud trefniadau ar gyfer y ffilmio, sicrhau nad yw ffilm yn cynnwys deunydd sy'n adlewyrchu'n wael ar y Llywodraeth a gwneud yn siwr nad yw'r newyddiadurwyr a chriwiau teledu'n gwneud gwaith ysbi%o.

Mae ei grintachrwydd ef yn ffurfio rhyw wrthbwynt i foneddigeiddrwydd Harri sy'n rhoi hanner ei gyflog i Marged tra fo'i thad yn wael.

"Y mae'n wael iawn," ebe un o'r meddygon.

Un nos Sul, a minnau erbyn hynny wedi symud o'r fro a chartrefu yn ardal Dinmael, daeth neges teliffon yn gofyn imi frysio adre i fro fy mebyd am fod Mam yn ddifrifol wael.

Cyrhaeddodd y gog eisoes a gelwir haidd wedi ei hau'n ddiweddar, ac felly'n gildio'n wael, yn haid y gog.

Roedd Lloegr yn enbydus o wael y pnawn hwnnw ond roedd 'na angerdd yn nhîm Cymru a dyna oedd y gwahaniaeth, ynghyd â'r ffaith.

Rhaid i rywun gynnal rhyw fath o fywyd a gwneud tamaid i'w fwyta, er mor wael oedd Jonathan druan.

Os oedd yn wael ei iechyd rhaid ei fod yn dal i obeithio y derbyniai hi awdurdod dros y Teulu.

Ymhen pedair blynedd ailafaelodd yr aflwydd yn waeth na chynt a bu gyda ni am ddwy flynedd arall yn wael ac yn ddall.

Mae e'n wael - pan ych chi am basio'r bêl mae'n gallu hobo i bob cyfeiriad, meddai.

Aeth Karen yn wael a chymrodd Gavin fantais o'i salwch er mwyn ei denu oddi wrth Derek.

Cystadleuaeth hynod o wael oedd hon, dim ond saith yn cystadlu, a'r awdl fuddugol yn un o'r pethau erchyllaf a grewyd erioed.

Yr oedd Douglas Bader yn wael iawn drwy'r amser.

Yn y cyfamser, bu morwr a oedd yn wael cyn gadael y llong, farw y noson gyntaf ac ychydig ar ei ôl bu farw dau arall.

Ynddo roedd nodyn yn ymddiheuro am "fenthyca'r car" ac unrhyw drafferth a achoswyd o ganlyniad, ond roedd cariad y gūr a sgrifennodd y nodyn wedi ei tharo'n wael ac yntau wedi gorfod ei rhuthro i'r ysbyty yn y car agosaf.

Fe wahaniaethir rhwng y teip yma - y damweiniol - a'r teip patholegol a achosir gan nifer o ddoluriau, fel coma oherwydd is thyroidedd, trawiad enbyd o'r galon, gostyngiad yn lefel y siwgr ar ôl i berson newynog yfed gormod o alcohol, sioc, a gostyngiad ym mhwysedd y gwaed o ganlyniad i ddamwain neu ddolur heintus fel Newmonia, ac yn bennaf mewn person sy'n wael iawn oherwydd gwenwyniad gwaed.

Ni wedi whare'n wael oddi cartref ond roedd hi'n bwysig bod ni wedi ennill lan yng Nglyn Ebwy yr wythnos dwetha.

Bu'n cysgu yn y gwely llaith yma am yn agos i dair wythnos, gyda'r canlyniad, pan aeth adref, iddo fod yn wael gydag erysipelas am fis.

Fel y noson o'r blaen pan drawyd ef yn wael?' 'Fe dybiais ei fod yn drysu yn ei wendid.

Mae'r rhagolygon yn wael.

Dymuniadau gorau hefyd i Mr Merfyn Simlett, Talbot St, sy'n wael ei iechyd ar hyn o bryd.

Dychmygais fod rhywun yn ddifrifol wael yno, a hwyrach ei fod ar ei ben ei hun hefyd, ac yn methu symud oddi yno i of yn am help.

Bu'n wael ers peth amser ond mae pawb yn falch o'i weld o gwmpas unwaith eto yn edrych mor dda.

Tystiai Pengwern fod ei chwaer yng nghyfraith, Miss Brownlow, hefyd yn yr ystafell wely y noson yr oedd Philti yn gweini arno am ei fod yn wael.

Dyddiadur tri mis yn cofnodi teimladau'r awdur tra oedd ei dad yn wael.

Daeth ail ddiwrnod y gêm brawf rhwng Pakistan a Lloegr i ben yn gynnar oherwydd bod y golau'n wael.

Yn anffodus trawyd Mrs Jenkins yn wael iawn y nos cyn ei angladd ac aethpwyd â hi i Ysbyty Tywysoges Cymru.

Y mae cerddi o'r fath ar gael ond tystiolaeth wael ydynt i ddigwyddiadau hanesyddol.

Cyhuddiad arall oedd fod Pengwern yn wael ar un adeg a bod dwy o'r genethod wedi mynd â chwpanaid o de iddo yn ystod y nos a chael bod Philti'n gorwedd ar yr un gwely â'r cenhadwr o dan yr un mosquito net.

Dyddiadur tri mis yn cofnodi teimladau'r awdur tra bo'i dad yn wael ac yn marw.

Roeddynt wedi eu hadeiladu yn wael ac roedd angen eu trwsio yn aml.

Cystadleuaeth wael oedd hon er bod rhai o brifeirdd y gorffennol wedi cystadlu.

Dwedodd Wayne Peel a chwaraeodd i dîm dan 21 Llanelli yn ystod tymor, fydd yn mynd i Siapan gyda'r tîm cenedlaethol yn yr haf, ar y Post Cyntaf, 'Mae'n wael ar y chwaraewyr sydd wedi gweithio'n galed trwy'r flwyddyn.

'Fe adawon ni gôl wael mewn o gic rydd.

Mae priddoedd glei yn ddwrlawn am gyfnodau a datblygant lle mae'r draeniad yn wael.

Ond un noson, tarawyd yr hen fodryb yn ddifrifol wael, ac ymhen yr awr yr oedd hi wedi marw.

Roedd asgwrn ei benglog wedi'i gracio'n wael hefyd.

Os yw'r sefyllfa yn Hartisheik yn wael, dyw hi ddim hanner cynddrwg ag yn Kebri Beya, y gwersyll nesaf ar y ffordd yn ôl i Jijiga.

Mae'r gwasanaeth yn un gwerthfawr, yn arbennig i drigolion gwledig sy'n hen neu'n wael ac yn anabl i deithio i'r llyfrgell agosaf.

Un bore, roedd Twm yn wael iawn, yn dioddef gan effaith dyddiau maith o oryfed, a dechreuodd gysidro ei gyflwr.

Cafwyd noswaith ddifyr a rhoddwyd croeso hefyd i Mr Cledwyn Jones mab Mr a Mrs Haydn Jones, Cil-y-Garth o Galgari, Canada oedd ar ymweliad a'i dad, sydd yn wael yn ysbyty Minffordd.

"Ydy e'n wael o hyd?' gofynnodd y Doctor.

Gedy Mr Rowlands ei briod a hithau'n bur wael, a mab a merch.

Lloyd George yn cyflwyno cynllun Yswiriant Cenedlaethol i dalu i weithwyr pan oeddent yn wael ac yn ddi-waith.

Roeddynt yn fychain ac wedi eu hadeiladu'n wael - disgynnodd rhai!

'does golwg wael arno fo?

Rhaid i mi gyfadde mod i wedi mwynhau llawer o'r hysbysebion ar y teledu, yn rhannol am eu bod nhw mor wael!