Anodd i Ewropeaid a fagwyd yn y traddodiad gwleidyddol Rhufeinig ydyw ystyried unrhyw beth heblaw gallu awdurdodaidd yn sylfaen bywyd gwleidyddol, ond egwyddor waelodol athroniaeth Gandhi oedd gwasanaeth.
Jones, fe grewyd ...rhwydwaith mawr o gwynion yn erbyn eglwys a landlord a gwladwriaeth, a theimlai'r werin mai teulu'r tarddu o'r un gwreiddyn oedd y tri ac mai eu cynnal eu hunain yn erbyn llafurwr neu amaethwr oedd swydd waelodol y tri.
Rwy'n digwydd credu fod yn rhaid i gomedi sefyllfa fod a sefyllfa waelodol hollol ddigrif cyn i'r sgrifenwyr ychwanegu'r jocs, ac roedd Fo a Fe yn ateb hynny gyda gwrthgyferbyniad o Dde a Gogledd yn union fel y mae Yes, Minister yn defnyddio sefyllfa oesol Don Quizote/ Sancho Paza neu Sherlock Homes/Watson i greu digrifwch cyn gorfod creu'r episodau unigol.
Yn ystod yr amser a dreuliodd yn Rhydychen y daeth gyntaf o dan ddylanwad y Dadeni Dysg, a dyma'r pryd y dysgodd Roeg a Hebraeg, ieithoedd a fyddai'n waelodol bwysig isso wrth geisio trosi'r Ysgrythurau.
Craffer ar eiriau Powel ac fe welir mai'r hyn sy'n waelodol bwysig yw'r clod a'r mawl i Arthur: yr oedd ar y Cymry, mae'n amlwg, angen y parch a'r bri a ddoi iddynt yn sgil yr hanes.