Y fam yn y cerbyd gyda'r rhai lleiaf, y tad yn gyrru un wagen, Iago yn gyrru y llall, a David Rhys y brawd hynaf yn gyrru y drol, a'r ddwy chwaer hynaf, Mary ac Elisabeth ar gefn ceffyl ar yn ail i yrru y gwartheg ar ceffylau.
Yr adeg hyn aeth pont yr Hendre i lawr o dan wagen a llwyth o had alffalffa, a bu i'r gyrrwr a'r ceffylau farw yn y ddamwain; o'r herwydd 'roedd rhaid i Mrs Freeman fynd mewn cerbyd at yr afon, croesi ar y bont droed gyda'r basgedi menyn, a chael menthyg cerbyd Thomas Pugh i fynd at Drelew.
Wel rwan yntê, dyma'r malwr yn mynd i ben draw'r bonc ac yn nôl wagen, peth rhywbeth yn debyg i focs sgwâr heb gaead arno ac un pen wedi ei dorri i ffwrdd, a'r bocs hwn wedi ei osod ar bedwar olwyn, ac yn dal rhywbeth o ddwy dunnell i ddwy dunnell a hanner o bwysau.
Cofio fel oedd ei mam yn hel ei dilladau i'r trynciau ar frys a'r tad yn clymu y ceffylau wrth y wagen a'r trap i ffoi am ei heinioes fel y dywedodd Eluned yn "Dringo'r Andes".
Wrth ddewis ymdrin a llipryn o brif gymeriad, clwtyn llestri o ragrithiwr a neidiodd ar wagen y Rhyfel Degwm er mwyn taflunio delwedd arwrol ohono'i hun i dwyllo cymdeithas hygoelus a ffug-barchus, yr oedd Tegla fel petai'n ensynio'n anuniongyrchol mai tan siafins oedd y frwydr wleidyddol, ac nad oedd yr holl helyntion ond rhyw ddrama ddisylwedd.