Pe bai o'n medru glanio gallai gael lluniau o'r wagenni a'r rheiliau o'r tu mewn i'r ogof.
Roedd gan rai ceffylau ryw allu rhyfedd i synhwyro neu i 'gyfrif' y nifer o wagenni a roid iddynt i'w tynnu.
A oedd yr hen geffyl yn medru cyfrif i chwech wrth glywed 'clic' y wagenni fel y tynhaent yn gynffon y tu ôl iddo?
Wedyn, pan wnaed ffyrdd o ryw fath fel y gellid mynd â throliau a wagenni i'r chwareli, rhaid oedd wrth geffyl rhwng y llorpiau ar gyfer symud rheini wedyn.
Yno gweithiai ceffyl yn tynnu wagenni i ben y domen, - ond chwech, a dim mwy na chwech, a dynnai ar y tro.
Dywedodd bod yna griw gyda wagenni yn "campio% ddim ymhell, ac i yno yr aethant.
Bu'r sawl oedd yn ei ganlyn yn ceisio'i dwyllo drwy dynhau y gynffon o wagenni cyn ei fachu wrthynt, ac yna ychwanegu un neu ddwy atynt, fel na allai glywed cliciadau'r wagenni wrth iddo'u tynnu.
Er i reilffordd, - boed honno'n llinell gul neu n llinell letach, - ddod i gludo cynnyrch y chwareli yn y man a dim galw mwy am y ceffyl ynglŷn â hynny o waith, roedd yna lawer o geffylau yn gweithio tu fewn i'r chwareli, yn llusgo wagenni a sledi - yn llwythog neu fel arall - ar y ffyrdd haearn a oedd yn gwau ac yn cyrraedd i bob twll a chongl mewn chwarel.