Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wahaniaeth

wahaniaeth

Yr unig wahaniaeth yw fod y Tywysog hwnnw yn cyflawni ei gampau ef mewn ysgol go arw ym mherfeddwlad Awstralia.

Meddai: "Mae yna wahaniaeth rhwng bod yn ddigartref ac yn ddi-dô.

Dipyn o ddireidi hwyrach, ond dim byd tebyg i blant heddiw.' Wel, rhaid i mi fod yn onest, 'doedd na ddim rhyw lawer o wahaniaeth!

Y mae, wedi'r cwbl, wahaniaeth rhwng Battersea a Bayswater, rhwng Forest Gate a Finchley, ac adlewyrchir hyn yng nghymeriad y trefi ar lan y Gamlas.

'dydi o ddim tamaid o wahaniaeth genny am y Sofiet.

Deil y Deon Church na wnaeth codi cofeb y merthyron fawr o wahaniaeth iddo ymledu yn Rhydychen ac yn y wlad oddi allan.

Mae'n syndod cymaint o wahaniaeth barn a fu am Tegla fel nofelydd.

"Wn i ddim fasa chi'n licio peth," meddai, "fasa fo'n wahaniaeth yn y byd gen i ddwad â dau." "Ardderchog, Mrs Roberts," meddwn innau'n ddigon awchus.

A dyna sut y cafwyd cyfundrefn addysg maes o law nad oedd wahaniaeth rhyngddi a chyfundrefn addysg Lloegr.

Roedd tipyn o wahaniaeth.

Annibynnwr oedd ef, ond ni wnâi hynny lawer o wahaniaeth yn yr oes honno; cadwai brodyr un enwad lygad barcud ar weithgarwch y llall.

Wedi'r cwbl, mae tipyn o wahaniaeth rhwng platen pum pwys ar hugain a phlaten hanner can pwys.

Mae digon o law yma, od dwi ddim yn meddwl y gwneith hynny lawer o wahaniaeth.

Mae yna wahaniaeth yn does.

Yr unig wahaniaeth yr ydw i'n ei deimlo fel Cristion yw fod hynny'n eich gwneud chi ychydig bach yn fwy gofalus yn y ffordd, er enghraifft, yr ydych chi'n ffilmio rhywun sydd wedi diodde' neu'n ffilmio rhywun mewn damwain neu blentyn bach mewn poen.

Nid oedd wahaniaeth amlwg iawn yn agwedd y Koreaid tuag atom ni, er ei bod yn lled amlwg eu bod yn casa/ u'r Siapaneaid.

Mae'n deg cydnabod hefyd fod dirywiad wedi digwydd yn y Felinheli: 'Roedd cyfnod y chwarel a'r cei yn un llewyrchus iawn i'r pentref, ac amryw o fusnesion eraill yn ffynnu o'r herwydd, nifer dda o wahanol siopau a phawb i weld yn gwneud busnes, pob cwsmer yn cyfrif, a'r cwsmer yn iawn os y byddai unrhyw wahaniaeth barn.

Ond y maen ymddangos fod yn wahaniaeth rhwng Parti Ann Summers a Pharti Ann Summers mewn gogoniant.

Lle rhyw dair llath o led oedd y fargen, a dyna oedd gweithdy'r malwr, ond gyda hyn o wahaniaeth, mai'r awyr oedd ei do; felly gwelwch fod y creadur hwn yn dibynnu'n hollol ar y tywydd am ei fywoliaeth.

Fel pob pregethwr mae ganddo bennau i'w bregeth, ond gyda hyn o wahaniaeth: nid oes gennyf i ond dau ben i'm testun, sef y chwarel ddoe a'r chwarel heddiw.

Y canlyniad yw nad oes wahaniaeth ym meddyliau mwyafrif pobl Lloegr rhwng "Prydain" a "Lloegr" - ar wahân, efallai, i'r meysydd chwaraeon lle ceir timau o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ymgiprys â thimau Lloegr.

Wrth feddwl am drobwyntiau bywyd Daniel Owen, anodd credu fod yr un trobwynt wedi bod yn bwysicach na'i brentisio'n deiliwr gydag Angel Jones, blaenor gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, oblegid fel y cyfeddyf ef ei hun, gwnaeth hynny'r byd o wahaniaeth iddo yn foesol ac yn ddeallusol - yn foesol, oherwydd golygodd fod rhaid iddo fynd i'r capel dair gwaith ar y Sul ac i bob moddion yn yr wythnos yn y cyfnod pan oedd yn dechrau ymryddhau o lyffethair awdurdod ei fam, a phan oedd ei frawd Dafydd efallai'n dechrau mynd ar gyfeiliorn, - yn ddeallusol am yr un rheswm ac am fod gyda'r hen Angel 'hanner dwsin o ddynion call, sobr, a darllengar, a bu (bod gyda hwy) yn fath o goleg i mi'.

'Dydw i'n hidio dim am ei flas o 'chwaith, er fy mod i'n barod i gyfaddef fod byd o wahaniaeth rhwng cegiad o ddþr tap a chegiad o dan y pistyll bach ym mhen ucha'r cae.

Nid oedd cymaint a hynny o wahaniaeth rhwng Llŷn y tridegau cynnar a'r 'lle i enaid' yr oedd J.

Roedd yr iaith lafar yn prysur droi yn rhywbeth na fuasai yn y canrifoedd cynt, sef arwydd o wahaniaeth dosbarth, ac eisoes yr oedd yna raniad rhwng De a Gogledd yn Lloegr.

Gadewch inni droi felly i ystyried pa wahaniaeth y byddai gollwng rhai o'r tybiaethau hyn yn ei wneud i gasgliadau'r model dechreuol.

Yn groes i'r disgwyl efallai, nid oedd fawr o wahaniaeth yn y patrwm darllen cylchgronau Cymraeg rhwng gwahanol grwpiau oedran.

Nid yw wahaniaeth p'run ai'r tlws ai'r tebyg hyll a unir, mae'r ddwy agwedd mor annigonol â'i gilydd i wneud tegwch â bywyd.

Mae yna gryn dipyn o wahaniaeth rhwng arddull Chouchen ac arddull y Tystion wrth gwrs, a chwyn sawl un am Steffan Cravos a'i fêts yw nad oes modd cyd-ganu gyda nhw a'u bod yn rhy swynllyd o lawer.

Llwyd yr enaid a'r tafod aflonydd, y Llwyd hanfodol nerfus, a gyflwynir i ni, Llwyd y crwydryn ysbrydol (amheuaf na wiw inni ei alw yn bererin, achos y mae cryn wahaniaeth rhwng crwydryn a phererin).

Roedd cryn wahaniaeth rhwng ymladd rhyfel guerrilla yn y mynyddoedd a llywodraethu gwlad gyfan.

Mae moroedd o wahaniaeth rhwng De Excidio Britanniae a Hunllef Arthur, ond yr un halen sy'n golchi'u glannau.

does dim llawer o wahaniaeth rhwng nofel a stori fer chwerthinllyd yw'r holl ddiffiniadau eisteddfodol o'r gwahaniaeth a'r ffiniau tybiedig rhyngddynt mae'r naill yn naratif hir a'r llall yn naratif byr.