Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wahaniaethu

wahaniaethu

Yn wir, gellid nabod pregethwyr yr amser hwnnw oddi wrth y 'bag bach', pe na bai dim arall i wahaniaethu rhyngddynt a gweddill meidrolion daear.

Prin iawn yw'r gwylwyr a allai wahaniaethu rhwng milwyr Irac a milwyr Syria pan fyddan nhw yn llechu yn y tywod.

Peidiwch a defnyddio tanlinellu, dyma'r unig ffordd oedd ar gael ar deipiadur i wahaniaethu testun, ond gyda dulliau cyfoes o brosesu geiriau mae digon o ddulliau eraill ar gael.

Er mwyn sicrhau fod modd i'r cynlluniau iaith ddylanwadu ar y broses addysgol, y mae angen yn ymarferol wahaniaethu rhwng cynllun iaith ar gyfer cyrff sirol neu genedlaethol, sydd yn ymdrin â materion gweinyddol a pholisi cyffredinol yn unig, a chynllun iaith ar gyfer sefydliadau addysgol, sydd - yn ychwanegol at faterion gweinyddol a pholisi cyffredinol - yn ymdrin â phrofiadau dysgu disgyblion a myfyrwyr unigol.

Gan wahaniaethu rhwng cenedligrwydd a chenedlaetholdeb, a chan dderbyn fod y naill o reidrwydd yn sail i'r llall, y mae'n dweud ar ei ben taw peth diweddar iawn yw cenedlaetholdeb gwleidyddol yng Nghymru - 'little older (apart from the occasional voice crying in the wilderness) than the second half of the nineteenth century.' Yna, yn ail hanner yr erthygl, try RT Jenkins at 'y ffurf arall ar genedlaetholdeb Cymreig', y ffurf ddiwylliadol arno.

...ond, mae'n anodd o hyn ymlaen wahaniaethu rhwng ymateb yr athrawon bro ar y naill gwestiwn rhagor y gweddill.

Aeth Arthur Compton gam ymhellach yn ei lyfr The Human Meaning of Science: " Gwyddoniaeth a Thechnoleg barodd i ddyn fagu'r nodweddion sy'n ei wahaniaethu oddi wrth yr anifail".