Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wahanu

wahanu

Er fy mod yn gyfarwydd a'r gair nithlen - nithlan i mi - am sach wedi ei rwygo yn agored i greu cynfas ddwywaith arwynebedd y sach gwreiddiol ni wyddwn mai'r ystyr wreiddiol oedd "cynfas o sachlian a ddefnyddid i greu gwynt ar y llawr dyrnu i wahanu'r us oddi wrth y grawn" a'r bathiad yn gwbl resymol o weld mai'r enw am "un yn gwyntyllio... ar y llawr dyrnu" oedd nithiwr a'r enw ar y weithred yn nithio.

Adeilad pren oedd hwn, gyda mur pren yn ei wahanu oddi wrth y stablau a'r cutiau moch y drws nesaf.

Yna, mae'n rhoi haenen o bridd i wahanu ei fab a'r plentyn nesaf a gaiff ei gladdu yn yr un bedd.

Eglurais nad oedd yr un ohonynt wedi ceisio cael ysgariad ar ôl iddynt wahanu ac y byddwn weithiau yn meddwl, neu'n hoffi meddwl, mai ailddechrau hefo'i gilydd fyddai diwedd y stori.

Dyma wahanu gofal am addysg Gymraeg a gofal am anghenion addysgol arbennig trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yng Nghymru gallai gwyr a gwragedd wahanu os oedden nhw eisiau.

Blodeuodd y bartneriaeth am bum mlynedd, nes i'r ddau wahanu wedi ffraeo'n chwerw iawn.

Byddai'n annerbyniol i'r Pwyllgor petai'r cyngor ar y naill sector yn cael ei wahanu oddi wrth gyngor ar bob sector arall.