Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wahodd

wahodd

Ond ofnaf y buaswn i, yn y cyflwr hwnnw, wedi herio Goliath i ymryson yn ei ddull ei hun a'i wahodd i alw Og, Brenin Basan ato, i'w helpu.

`Gyda phleser,' ebe Harri, `ond i chwi fod yn gyfrifol i mi am ganpunt os digwyddiff rhwbeth iddo.' `Dim peryg,' ebe'r Yswain, ac ychwanegodd, `ond tyrd dy hun efo ni, mi fydd yn dda gen i dy weld yn y cwmni.' Diolchodd Harri iddo, a theimlai yn hynod o hapus fod ei feistr tir wedi ei wahodd i ymuno â'r boneddigion oedd yn myned ar ôl y cŵn ddydd Llun, ac ni wnaeth efe ddim arall bron hyd y dydd penodedig ond ei daclu ei hun a'i geffyl ar gyfer yr amgylchiad.

un o'u dyletswyddau cyntaf yno oedd ymweld â'r barwn humboldt yn potsdam, er mwyn ei wahodd i lywyddu'r gynhadledd.

Petai Lewis Olifer a Deilwen Puw wedi dyfod yn ystod yr wythnos yr oedd ef acw, ni allwn lai na'i wahodd.

Gorfodwyd y Llywodraeth i wahodd CBAC i sefydlu Pwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg democrataidd, ond torrodd Wyn Roberts ei air i roi cyllid iawn i'r corff newydd.

Yr oedd Gwen eisoes wedi yfed yn helaeth o ysbryd y Methodistiaid, ac anogodd ef yn daer i roi heibio'r meddwl am fynd ar ôl y cŵn, ond dadleuai Harri y buasai felly yn amharchu ei feistr tir a Mr Jones y Person, a hwythau wedi ei wahodd.

Ond roedd gŵyl y Nadolig yn nesa/ u a gan ei bod yn dymor o ewyllys da, penderfynodd y tafarnwr yn Plouvineg gynnal gwledd gan wahodd holl drigolion y plwyf yno i'w mwynhau eu hunain.

Mae'r Bwrdd wedi bod yn cyfarfod unwaith bod deufis mewn gwahanol lefydd yng Nghymru gan wahodd casgliad o 'bwysigion' lleol i giniawa â nhw bob tro.

Nid oedd ei sel efengylaidd wedi ei gyfyngu i'r Cymry un unig, gan iddi ddylanwadu yn fawr ar yr Undeb Eglwysi i wahodd cenhadwr Spaeneg i bregethu i'r "natives", fel y byddai hi'n dweud.

Maent yn dy wahodd i ddychwelyd i ddathlu lladd y baedd.

Roedd ym mwriad HR Jones i wahodd De Valera yn ogystal, ond gwrthododd Saunders Lewis y syniad hwn yn bendant; roedd wedi cyfarfod De Valera, ac ni hoffai ei syniadau, a sut bynnag, buasai ei wahodd yn anghwrtais ­ O'Sheil.

Fel y ciliai'r tonnau ymgodai'r creigiau'n ymgodai'r creigiau'n dduon i wahodd yr adar arnynt, piod y mor yn gwichian yn stwrllyd ar bilidowcars mud, llonydd, anodd iawn eu gweld heblaw pan drwsient eu plu neu ysgwyd adenydd cyn setlo drachefn ar eu harsyllfeydd.

Aethpwyd ati i wahodd yr awdurdodau lleol, y cymdeithasau a'r cyrff crefyddol a'r eglwysi, y pleidiau gwleidyddol a mudiadau, i anfon cynrychiolwyr yno.

Yn wobr am ei waith campus mae Leigh Jones wedii wahodd i ymuno âr tîm hyfforddi cenedlaethol.

Yn dilyn ein cynnig i'r Cyngor Cenedlaethol, adroddodd y Llywydd y penderfynwyd yn y Cyngor wahodd siaradwr/wraig yn ôl yr angen.

Fel rhan o'r arolwg, lluniwyd holiadur cwbl ragfarnllyd gan wahodd ymatebwyr i nodi ai cau'r mwyafrif o ysgolion bach y sir neu dim ond rhai ohonynt oedd y llwybr gorau i ddatrys materion fel codi safonau academaidd, hwyluso gwaith staff etc.

Trwy ddarparu gwasanaeth Cymraeg cyflawn sy'n anelu at fod cystal â'r hyn a geir yn Saesneg, a thrwy wahodd eu cwsmeriaid i ddefnyddio'r Gymraeg wrth ddelio â hwy, gall y sawl sy'n darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg gyfrannu'n helaeth at y broses o newid ymddygiad.

Maent yn dy wahodd i ymuno â hwy.

Mae cael morgais yn ddigon o faen melin heb wahodd rhagor o fygythiad i ddiogelwch eich cartref.

Fe'i gwelid yn gyson yn angladdau'r fro, ac ar adegau felly gofalai pob offeiriad a gweinidog ei wahodd i gymryd rhan yn y gwasanaeth, un ai gyda gweddi neu ddarlleniad o'r Ysgrythur.