Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wair

wair

Yma eto bu+m yn busnesu a sylwi fod y ffermwyr yn brysur yn cynaeafu ail gnwd o wair silwair.

A'r funud honno, fel tae o'n gneud ati, ymddangosodd Malcym yn chwil o ganol y das wair, yn pesychu, tagu, tishian, rhochian, poeri a mygu am yn ail.

Popeth yn mynd yn hwylus drwy'r dydd a charad ar ôl carad o wair yn mynd i mewn i'r gowlas.

Ag yntau yn hogyn fferm roedd ganddo nifer o gelfi ffermio cynnar i ennyn diddordeb y plant a bu'r plant yn ddiwyd yn creu rhaff wair.

Yn nyddiau bore'r byd pan oedd aroglau da ar wair yn cynaeafu, a thail yn gynnyrch porthiant o'r das, yr oedd ambell i ddiwrnod yn rhoi lle o anrhydedd i'r ferfa yng nghynllun gweinyddol economi ffarmio tyddynnod Eryri.

Mae'n gae tair acer ar hugain ac yn codi cynhaeaf da o wair defaid bob blwyddyn.

Yna cymrodd lwybr llyffant yn ddigon llwyddiannus am bwl, beth bynnag, dros ac heibio'r hen gombein a'r heuwr a'r injian wair a'r heyrs blêr yn y gadlas.

Er mawr syndod i fi, pan gyrhaeddes i roedd y bustych yn byta'n braf ar wair ffres, a'r rhastal yn hanner llawn.

Bu rhaid porthi hyd at fis Mai a bu llawer o alw am wair a silwair a'r pris yn dyblu mewn pythefnos.

Bob nos Sadwrn fe fyddai Mati'n gwisgo'i gêr arferol þ hen gôt racslyd a llinyn wedi'i glymu am ei chanol; het dyllog; trowsus ribs; blewyn o wair yng nghornel ei cheg.