Cafodd Ben bwl o chwerthin nes ei fod yn wan wrth inni ddarllen am hyn ac hyd heddiw, pan mae na ddigon o fybls yn y bath, mae'n dal i chwarae bod yn hen wr o wlad y sebon.
Hyn, wedyn, a'i harweiniodd yn ddiweddarach, fel y cyfeddyf, i ddileu'r llinell wreiddiol wan, 'Wyneb yn wyneb gyda'r graig' oherwydd, chwedl yntau, 'y mae i'r graig hithau ei dannedd'.
Nid achos ei fod e'n ffŵl nac yn wan na'i hofan hi.
Mewn tua dwy awr go dda, gyda rhyw 'Excuse me' go wan, codais a mynd i'r tŷ bach.
Cracyr o nofel yw Noson yr Heliwr er bod angen rhybuddio nad yw'n llyfr i'w ddarllen os oes gynnych chi nerfau gwael neu galon wan.
Nid oes yna yr un stori wan ac fe yrrir y darllenydd ymlaen gan yr awch i ddarllen mwy a mwy.
Erbyn diwedd Tachwedd yr oeddwn i fy hun yn wan yn gorfforol.
Ac mae coch yn rhybuddio fod bywyd y plentyn yn y fantol am ei fod mor wan.
Maen nhw'n rhy wan erbyn hyn i gyfathrebu â fi, ond gallan nhw ddal i'w wneud drwyddot ti.' Golchodd ton o benysgafnder dros Meic.
Ar ben y grisiau hongiai un lamp drydan wan o'r nenfwd gan daflu goleuni melyn ar y paent a godai'n swigod gwlyb ymhob man.
Mewn cystadleuaeth wan ni chafodd Isaled, Cynddylan a Hawen ond pedair pryddest i'w beirniadu a phenderfynwyd mai Glanffrwd oedd wedi rhagori ar lapio'r hen gysuron o gwmpas yr iaith.
Os niweidir y retina mewn damwain, gellwch fynd yn ddall neu'n wan eich golwg.
Wedi dianc o'r car, cafodd y bechgyn egni newydd o rywle a dechrau rhedeg yn wyllt i bob cyfeiriad tra llusgai Carol ar eu holau'n wan fel balŵn wythnos wedi'r parti.
A phan weli'n dda ganiatâu i'r stormydd ein taro ac i'r gwyntoedd ruo o'n cwmpas, fe'n gorfodir i sylweddoli pa mor wan yw nerthoedd dyn er ei holl wyddoniaeth a pha mor frau yw ein bywyd ninnau.
Bu'r Cwrdiaid eu hunain yn rhy ofnus i wrthwynebu'r cynllun yn agored oherwydd ei sefyllfa wan yn dilyn cipio Abdullah Öcelan a'i roi ar brawf. Hasankeyf
Mae hi'n sefyllfa wan.
Efallai na ddylid amau'r posibilrwydd iddo fod yn rhyw fath o ddisgybl gynorthwywr i'r Esgob cyn mynd i Rydychen, ond edau go wan i ddal gafael ynddi fyddai damcaniaeth felly.
Roedd eisiau i bawb fynd adref a chofio dychwelyd drannoeth, ac yn y cyfamser gofynnodd iddynt i gyd, bob wan jac, i weddio ar Allah i roi nerth o'r newydd i'r reslwyr lleol.
Yn aml iawn fe fydd y prentis 'ymosodol' yn ei gael ei hun mewn sefyllfa lle mae wedi aberthu gormod, a'i fyddin bellach yn rhy wan i wrthsefyll gwrth-ymosodiad y gelyn pan ddaw.
Am eisteddfod y Foel, rhywbeth yn debyg oedd hanes honno, ond er dechrau yn wan yng nghyfarfod yr hwyr fe fywiogodd gryn dipyn fel aeth y noson ymlaen a chafwyd cystadlu brwd a safon uchel tua'r diwedd a gwell na'r cwbl, llawer o'r cystadleuwyr yn bobl ieuanc.
Yr oeddwn i'n rhy wan i feddwl erbyn hynny heb sôn am symud." "Dyna oedd y marciau a'r tyllau'n y grisiau pren felly?" meddai Louis.
Cystadleuaeth wan oedd hon, gyda dim ond chwech yn cystadlu.
e'i gwelais, ond ni fedrai hwnnw ychwaith addo dim gan fod pethau'n bur wan.
Treuliodd rai diwrnodau yn Ysbyty Coleg y Brifysgol ond 'roedd yn dal i fod yn wan iawn pan ddaeth antur Suez i ben ddechrau mis Tachwedd.
Ni amgyffredid pa mor gyflym yr oedd tymheredd gwleidyddol Llanelli a'r cylch yn codi, nac i ba raddau yr oedd Llanelli'n ddolen wan yn y llinell gledr rhwng Llundain, Caerdydd, Abergwaun ac Iwerddon.
Ni allai'r Datganolwyr weld ar y pryd mai mesur gan Blaid Lafur wan a rhanedig oedd y mesur dros Ddatganoli, ac nad oedd sawl aelod o'r Blaid Lafur ei hun yn gefnogol iddo.
Yn ystod y gawod dechreuodd y chwaraewr oedd wedi ei anafu deimlo'n wan a chael poen yn ei ysgwydd chwith.
Dim ond trwy delesgop neu ddeulygadion y mae'r rhan fwyaf o ser yn weladwy, gan eu bod yn rhy wan inni allu eu gweld a'r llygad.
wynfyd, nid dy golli di a wan Drwy'r fynwes a'r deufiniog lafnau cudd; Na Eden, nid dy golli greithia'm grudd, Ond cofio'r mwyn oedfaon, cofio man Suadau serch a swyn dy lennyrch glan Pan rodiai dedwydd ddau dy lwybrau rhydd, Yw'r aeth a wnaeth fy nydd yn fythol nos; Ni cherddaf mwy hyd lannau'r dyfroedd byw Ni chwarddaf mwy uwchben y sypiau gwin; Ond dwyn y draen a wnaf heb wrid y rhos, Am hynny gweaf gan y blodyn gwyw, Am hynny odlaf gerdd y ddeilen grin.
Golygai mai dim ond un blaid fechan, plaid y Democratiaid Annibynnol (FDP), oedd llais yr wrthblaid o fewn y senedd, llais a oedd yn rhy wan i fod yn effeithiol.
Cystadleuaeth wan ryfeddol oedd hon, gyda phedwar yn unig yn cystadlu.
"Mi rydw i wedi cael strôc," sibrydodd yn wan yng nghlust Rex, "ac os na allaf fynd adref i le cynnes, a chael meddyg, mi fyddaf yn farw'n fuan.
Y Blaid Lafur yn wan iawn yn yr Etholiad Cyffredinol, ond Ramsay MacDonald yn parhau'n Brif Weinidog ar Lywodraeth Genedlaethol.
Mi 'roeddwn wedi cyfarfod â nhw i gyd, bob un wan jac, ar ddiwrnod glawog yng Ngherrig Duon.
Nid oedd wedi bod ar ôl hynny am nad oedd ei phartner canfasio ar gael, ond nid oedd am adael i neb wybod y rheswm rhag ofn iddi ymddangos un ai'n rhy wan a dibynnol neu'n waeth fyth yn ormod o wraig fawr i fynd efo neb arall.
Nid wy'n siwr ai da ai peidio oedd ein bod heb waith, oherwydd yr oedd pawb yn ddychrynllyd o wan, a nifer mawr iawn yn dioddef o afiechyd.
"Mae'n rhaid dweud bod ymrwymiad Gwynedd yn wan iawn, ac nad ydi'r balans yn gywir, o bell ffordd.
Bu+m i'n lwcus i fynd mewn digon o bryd gan fod ciw yn disgwyl eu tro erbyn hyn ac mae'n debyg fod ambell un yn perthyn i leng y bledren wan.
Teimlai'n sâl ac yn wan.
Mor dyner oedd ein horiau olaf gyda hi - ti'n dal ei llaw wan a minnau'n gwlychu ei gwefusau a'th dad yn cadw cynnull yn y Neuadd Fawr.
Pasiwyd Deddf Iaith wan -- gan esgusodi cyfeillion y Torïaid mewn cwmnïau preifat rhag gwneud dim -- a phenodwyd yr 'Arglwydd' Dafydd Elis Thomas yn gadeirydd ar y Bwrdd.