Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

warafun

warafun

Ar ôl rhybudd amserol a difloesgni Mr Saunders Lewis ynglyn â thynged yr iaith, fe aeth Cymdeithas yr Iaith ati i fynnu i'r Gymraeg ei phriod hawliau yn ei gwlad ei hun, ac ni wnâi ond y crintach warafun i'r mudiad hwnnw y clod am ennill yn ôl i'r iaith beth o'r bri y mae'n ei fwynhau heddiw.

Efallai y byddai wedi bod yn well pe na bai mor barod i bregethu'n erbyn rhyfel a lladd, ond pwy a all warafun i rywun ifanc mor llawn o sêl rhag mynegi'i gredo bersonol ei hun, yn enwedig o bulpud yr Un a lefarodd y geiriau 'Câr dy elynion', i fyd a oedd yr un mor gibddall â'r un yr oedd y gweinidog yn byw ynddo.