Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

warchod

warchod

Roedd yn teimlo bod y newidiadau o fewn y diwydiant darlledu yn golygu bod angen edrych o'r newydd ar y ffordd orau i warchod safonau.

At hynny, y mae'r Gymdeithas wedi galw am y canlynol: bod y Swyddfa Gymreig yn comisiynu ac yn noddi prosiect ymchwil ar 'Ddefnydd yr Iaith Gymraeg mewn Cynllunio'; - y dylai pob awdurdod cynllunio lleol roi ystyriaeth i'r Gymraeg yn eu Cynlluniau Datblygu Unedol, gan mai'r Gymraeg yw priod iaith Cymru a'i bod hi'n etifeddiaeth gyffredin i holl drigolion Cymru; - y dylai pob awdurdod cynllunio lleol gynnal arolwg o gyflwr yr iaith yn eu hardaloedd, a llunio strategaeth iaith a fydd yn ffurfio polisïau i warchod a hyrwyddo'r iaith yn eu hardaloedd; - bod y Swyddfa Gymreig yn rhoi fwy o arweiniad i'r awdurdodau cynllunio lleol, ac yn cyhoeddi canllawiau fwy manwl ar ba fath o bolisïau y dylid eu mabwysiadu er gwarchod a hyrwyddo'r iaith.

Ni fyddai'n bosibl o dan y drefn hon i ni warchod swyddogaeth arolygol PDAG, sef y dyletswydd i gynnig cyngor i'r system trwy adrodd ar y ddarpariaeth, gan ddinoethi'r sefyllfa fel y mae, gan gynnwys a yw'r Gweinidogion wedi cadw at eu haddewidion deddfwriaethol.

`Yr hyn yr ŷn ni'n ei garu, rŷn ni'n ei warchod.' Dyna i mi oedd hanfod y chwyldro yn Ciwba, a hwnnw'n cael ei adlewyrchu ymhobman, yn y gofal dros bobl, a thros blant yn arbennig.

Gallai celynen ger y tŷ hefyd ei warchod rhag mellt ac roedd hefyd yn cadw gwrachod, ysbrydion drwg a phob melltith draw.

I ddangos ei fod yn onest ac o ddifrif, rhoddodd ei waled yn llawn o arian i'r ceidwad i'w warchod nes iddo ddod allan.

Fodd bynnag, er bod yr NCT yn cymryd cam i'r cyfeiriad cywir, ofna'r Gymdeithas nad ydyw'r Swyddfa Gymreig wedi achub y cyfle i lunio canllawiau grymus a fyddai'n fodd i warchod yr iaith yn ei chadarnleoedd traddodiadol a hyrwyddo ei hadferiad mewn ardaloedd a'i collodd yn ystod y ganrif a hanner diwethaf.

Eto roedd cael ysgawen yn tyfu ger y tŷ yn ei warchod rhag mellt.

Maen union fel petair defnydd o amddiffyn cadarn, o warchod eich llinell gais, yn elfen gwbl newydd.

Yn ail, ei bod yn amherthnasol ac yn wir yn anfoesol, mabwysiadu polisi%au i warchod yr amgylchfyd os ydynt yn tanseilio gobeithion y tlawd a'r anghennus (yn unrhyw wlad) am hanfodion bywyd gwâr, sef bwyd llesol, cartref clyd a dillad addas, parch cymdeithasol, gwaith, a gwarchodaeth rhag gorthrwm.

Yn ei gerdd 'Hendref' mae'n rhoi disgrifiad perffaith o warth 1979: 'Mawrth y gwrthod a'r gwerthu'; ond wedi ystyried y brwydrau i warchod Cymreictod yn yr wythdegau, mae'r bardd yn gweld fod gobaith o hyd.

Dim villa wedi ei warchod â thrydan, dim gwarchodwyr a chþn Alsatian, dim ceir cyflym, dim chauffeurs, dim tâl a gwasanaeth gan y cynorthwywyr enwog pwerus, gan y gwasanaethau cudd, y llywodraethau militaraidd, y mudiad ODESSA - dim o'r dwli papur newydd hwn.

Roedd angen gôl yn yr eiliadau olaf i warchod record gartre ddi-guro Caerdydd.

Mae i ddefnydd cerrig mâl at greu ffyrdd oblygiadau ar ddefnydd ynni ac ar warchod natur a'r tirwedd.

Ond am warchod ei gleifion, nid oedd hafal i'r Doctor.

'...' Roedd yna weledigaeth o wasg Gymreig fel un i warchod Cymreictod dilychwin rhag gwerthoedd estron.

Ymatebodd y Llywodraeth Brydeinig naill ai drwy reolau llym, er enghraifft ar lygru afonydd, neu drwy gynnig cytundebau i warchod naill ai ardaloedd arbennig - fel yn yr ESA neu i warchod adnoddau arbennig megis gwrychoedd, llynnoedd, coedwigoedd (e.e.

(Gweddi a gyhoeddwyd gan Ganolfan Sant Samson, Efrog) Hyn, gan obeithio y bydd y weddi o gysur i'r rhai sy'n hŷn ac yn gymorth i warchod rhai iau rhag hunanoldeb.

Diflannodd y cyfamod yn mwyafrif ein heglwysi a hwnnw oedd y cyfrwng cyhoeddus i warchod y ffin.

'Roedd y papur ymgynghorol yn pwysleisio y dylid cymryd costau ariannol ac adnoddau eraill i ystyriaeth wrth ymateb i'r opsiynau a oedd yn cael eu cynnig er gwella'r drefn o warchod ac hyrwyddo ardaloedd cadwraeth.

Peidiodd ffrindiau â galw, wrth iddynt warchod eu hepil a phluo eu nyth.

Erbyn hyn, gweinyddir yr Ynys gan Ymddiriedolaeth Ynys Enlli, a sefydlwyd yn 1979 i warchod y naws unigol, ac i sicrhau y bydd yr Ynys a'i thrysorau ar gael i bobl fwynhau am flynyddoedd i ddod.

Fe allwn ddychmygu cymaint mwy yw eu hawydd i warchod yr eliffant a fu yn sumbol mor gryf o drachwant dyn yn treisio'r bywyd gwyllt.

Mae cyfrifoldeb ar holl aelodau'r Cynulliad fod y statws hwn yn cael ei warchod.

'Cofia warchod y ffon,' meddai.