Y mae 'anllywoadraeth a lladrad', meddai ymhellach, yn sicr o lygru 'hil gŵr a nerth gwâr yn ei ôl', a 'hwnnw sy'n gyfion', yn 'geidwad', yn 'gadarn', yn 'gall' ac yn ŵr 'da'r synnwyr' yng ngherddi Wiliam Llŷn, os nad hwnnw a oedd ei hyn yn benteulu a gadwai drefn ddisgybledig ar ei dy a'i dylwyth ac a estynnai gortynnau ei warchodaeth i gylch ehangach ei gymdogaeth.
Canfyddir yr un syniad o undod hefyd mewn cyfeiriadau at warchodaeth gwraig dros ei theulu neu feistres dros ei morynion neu fam dros ei phlant.
Yn hytrach, cwmpasai holl oblygiadau perchtyaeth yn yr union ffordd y bu i lys y brenin daenu ei warchodaeth dros holl ddeiliaid y deyrnas ac amddiffyn eu buddiannau gorau, sef sicrhau heddwch a threfn a fyddai'n hybu cynnydd a golud gwlad ac yn clymu'r deiliaid hynny'n fwy ffyddlon i'r frenhiniaeth.
GWARCHOD NATUR, DAEAREG A'R TIRWEDD: Gall cloddio mwynau gael effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol ar warchodaeth natur ac ar adnoddau tirweddol Gwynedd, o ran colled neu ddirywiad cynefinoedd lled-naturiol a newid tirweddau, tirffurfiau a defnyddiau tir traddodiadol.