Nid oedd Pwll Malltraeth a'i gyffiniau'n warchodfa natur bryd hynny, a byddai llu o hwyaid, rhydyddion ac ychydig wyddau'n cael eu saethu pan hedfanent i fyny'r afon o'r môr.
Gwnaed cytundeb rhwng Ymddiriedolaeth Naturiaethwyr Gogledd Cymru â pherchennog presennol y fferm, er mwyn cynnal y caeau yn warchodfa natur.
Hyd yn hyn bu'r afon yn llamu dros y creigiau geirwon ond cyn cyrraedd y bont nesaf a ffin y Warchodfa fe welwch bwll tyfn, llonydd yn y mawndir.
Difyr oedd sylwi ar ffermwyr lleol yn cario llwythi anferth o datws mân i'r warchodfa i fwydo'r gwyddau, ond synnwyr cyffredin yw'r haelioni, ac ystryw i gadw'r adar newynog ar y warchodfa.
Mae tair rhan i Warchodfa o'r fath; y rhan addysgiadol sy'n arddangos adar dof i'r ymwelwyr, a'r rhan sy'n ymwneud â gwaith ymchwil, ac yn datblygu dulliau o fagu rhywogaethau prin a'u dychwelyd i'w cynefin gwyllt naturiol.