"Mae'n rhaid i mi beidio â'i gollwng," meddyliodd, gan barhau i gael ei lusgo drwy'r tonnau a chan gofio'r tro hwnnw y syrthiodd oddi ar ei geffyl ers talwm a chael ei dynnu ar hyd y ddaear gydag un droed yn sownd yn y warthol.