Ateb y Beibl yw, i wasanaethu Duw ac i'w ogoneddu yn ein holl weithgareddau.
Gwelodd y Dirprwywyr fod uchelgais draddodiadol ysgolion yr Eglwys o wasanaethu plwyfi unigol nid yn unig heb ei chyflawni ond na ellid ei chyflawni byth, gan fod y drefn blwyfol ei hun wedi ymddatod.
Adeiladwyd y mwyafrif o ysgolion gwledig Ceredigion a Chaerfyrddin rai cenedlaethau'n ôl i wasanaethu'r patrwm o gymunedau a oedd yn bodoli ar y pryd.
Cysegrodd ei bywyd i wasanaethu - bu'n gwasanaethu yn ardal Llandudno am rai blynyddoedd, ac yna dychwelyd yn ol i'r hen gartref Cwr y Coed, Trefriw lle roedd croeso breichiau agored bob amser i bawb a alwai heibio.
Nid oes le i gredu i'r un gof wneud ffortiwn ariannol, ond cafodd y rhan fwyaf ohonynt fwynhad yn eu gwaith drwy wasanaethu'r gymdeithas wledig yn ufudd ar bob adeg.
Ceisio dal gafael ar yr hawliau chwaraeon presennol, ac os yn bosibl, adennill rhywfaint o hawliau a fydd yn galluogi BBC Cymru i wasanaethu ei gynulleidfaoedd yn llawn ar radio, teledu ac arlein yn y ddwy iaith.
Aeth yno i Salonica ym Macedonia gyda'r uned Gymreig arbennig o'r 'Royal Army Medical Corps (RAMC).' Corfflu Meddygol oedd hwn 'ar gyfer gweinidogion a darpar-weinidogion, myfyrwyr diwinyddol ac eraill o dueddiadau heddychlon a ddymunai wasanaethu yn y Rhyfel Mawr heb orfod trafod arfau.' Ond, a dyfynnu unwaith eto o'r cofiant: 'Hyd yn oed cyn iddo gyrraedd pen y daith, yr oedd Dei Ellis yn dyheu am ddychwelyd i Gymru.
Mae'r aelodau'n parhau i deimlo nad yw rhaglennu rhwydwaith y BBC yn gwasanaethu Cymru gyfan yn ddigonol, ac mae dyfodiad datganoli yn cynnig sialens newydd i adlewyrchu ac i wasanaethu Cymru a'i thalentau ar wasanaethau rhwydwaith.
Daeth y syniad am y 'dinesydd defnyddiol' yn gyfarwydd i wladweinwyr, sef y gwr cyffredin a allai wasanaethu'r wladwriaeth mewn sawl ffordd am ei fod yn llythrennog ac yn fwy hyblyg o'r herwydd, â'r gallu i fyw a gweithredu y tu allan i'w gylch pentrefol traddodiadol.
Yn ystod y dyddia' hynny 'roedd hi'n beryg' bywyd, onid oeddech wedi cael swydd yn rhywle, i chi gael eich galw i wasanaethu'ch 'gwlad a'ch cyntri', ys dywedai Jac Llainsibols ac erbyn i mi gyrraedd adre' yr oedd llythyr oddi wrth y Frenhines yn fy aros yn estyn croeso cynnes i mi ymddangos o'u blaena' nhw yn Wrecsam 'na!
Newyddion i godi calon yw bod Rhidian wedi penderfynu ymgysegru'r flwyddyn sydd i ddod i wasanaethu'r plant bach amddifad sydd yn byw yn y carthffosydd o dan ddinas San Paulo yn Brasil.
Bryd arall gelwid gweinidog i wasanaethu nifer o eglwysi, a chyfrannai pob un o'r canghennau tuag at ei gynhaliaeth.
Mae'n amlwg nad oedd gan drigolion y cyfnod hwnnw lawer o ofn 'tywydd mawr' - trefnwyd i gynnal cyfres o Oedfaon Pregethu a gwahoddwyd pump o bregethwyr i wasanaethu.
Mae'n bleser cael y cyfle i wasanaethu'r gwerthoedd yr wy'n credu ynddyn nhw." Dyna nodwedd llawer o'r cynhyrchiadau y mae ef wedi gweithio arnyn nhw yn y gorffennol, llawer ohonyn nhw ar y cyd gydag awdur y gerddoriaeth y tro hwn, Eirlys Gravelle.
Diolch yn arbennig i'r Parch Arthur Thomas am ddod o Langefni i wasanaethu ac i'r Parch Ceri Evans am ei gynorthwyo.
Yno y cawsant eu geni a'u magu a'u hyfforddi i'r diben o wasanaethu'r tylwyth a'r llwyth hyd eu marw, a phâr ifanc yn eu dilyn i wneud yr un peth wedyn.
Cafwyd yr arian gan deulu goludog yr oedd un o chwiorydd fy nhaid wedi ei wasanaethu fel morwyn nes gorfod gadael am ei bod yn disgwyl baba.
Wedi pedair blynedd yn yr ofalaeth symudodd i wasanaethu Eglwys Saesneg Moreton.
i wasanaethu eraill...
Dylid trafod gydag adrannau eraill o'r cyngor, asiantaethau a'r sector wirfoddol sut y gellir gwneud y defnydd helaethaf o adeiladau ac adnoddau ysgolion i wasanaethu'r gymuned.
Mewn gair, gallai Huw Huws wasanaethu fel antidote i Anti Lw.
Daeth yn rhwyg a brwydr rhwng y Cymry Parchus a oedd am i bobl eistedd nôl am sbel a 'rhoi cyfle' i'r Quango Iaith, a Chymdeithas yr Iaith a fynnodd fod y Quango Iaith yn sefyll yn ffordd cyfiawnder a bod ei aelodau'n cydweithio â'r Torïaid trwy wasanaethu ar eu Quangos gwleidyddol.
Enwir Moses Parry, Evan Lewis, Robert Jones ac Owen Owens fel y pregethwyr cyntaf i wasanaethu yn yr oedfaon hyn.