Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

wasgar

wasgar

Mae ein hiaith mewn enbydrwydd, ein tir o dan warchae gan estroniaid, ein diwydiannau'n adfeilion a'n plant ar wasgar ym mhedwar ban y byd.

Am eu bod ar wasgar yn Iraq, Iran, Twrci, Syria a'r Undeb Sofietaidd, does neb yn siwr beth yw eu nifer.

Mudiad yw hwn, yn ymgorffori Undeb y Cymry ar Wasgar a sefydlwyd yn 1948, sy'n creu a chynnal dolen gydiol rhwng Cymru a phobl o drâs Gymreig a chyfeillion Cymru ym mhedwar ban y byd.

Roedd ei ymddangosiad bob mis yn brawf o fodolaeth y blaid i'w haelodau ar wasgar.

Roedd hi'n fantais dod o hyd i Gymry ar wasgar a chael golwg ar y sefyllfa drwy eu llygaid nhw - diffiniad ar blât o'r safbwynt Cymreig - ond faint o'r radicaliaid Cymreig fyddai'n mwynhau clywed Cymry De Affrica yn amddiffyn apartheid, neu'n clywed Cymry De America'n cefnogi unbeniaid yn erbyn tlodion, neu'n gwneud ffortiwn mewn gwledydd tlawd ar draul y brodorion?

Sefydlu Cyngor Cymru ar Wasgar.

Fel 'na mae'r Cymry ar wasgar þ dal i goleddu rhyw syniada sentimental, rhamantaidd am yr hen wlad a hitha wedi newid allan o bob rheswm.